Ar ôl gwrandawiad neu gyfarfod, mae panel yn penderfynu a yw’r cyhuddiadau wedi’u profi ymarfer ac a yw addasrwydd y person i ymarfer wedi’i amharu. Mae hyn yn golygu bod gan y panel bryderon cyfredol am addasrwydd y person i ymarfer yn ddiogel ac yna byddan nhw’n penderfynu canlyniad yr achos.
Mae nifer posibl o wahanol ganlyniad y gall y panel ddewis eu gwneud, sef:
- Dim cosb
- Rhybudd
- Amodau ymarfer
- Ataliad
- Dileu
Unwaith mae panel wedi gwneud penderfyniad, byddwn ni’n cysylltu â chi i adael i chi wybod y canlyniad ac egluro beth mae hyn yn ei olygu.
Os yw’r achos wedi’i brofi, gallwch hefyd weld canlyniad y gwrandawiad yn adran gwrandawiadau a sancsiynau o’n gwefan.
Gwasanaeth cefnogaeth cyhoeddus
Unwaith mae canlyniad wedi’i benderfynu, bydd ein swyddogion cefnogaeth cyhoeddus hefyd yn cynnig eich cyfarfod. Gallai’r cyfarfod hwn fod ar ddiwedd y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, yn dibynnu ar ba bryd mae’r achos yn cau.
Byddan nhw’n egluro canlyniadau ein hymchwiliad yn fanwl ac yn rhoi manylion sefydliadau eraill i chi a all eich helpu os ydych angen cymorth.
Canfod mwy am ein gwasanaeth cefnogaeth cyhoeddus
Rhowch eich adborth i ni
Rydym ni wedi ymrwymo i wrando arnoch chi a gwneud gwelliannau yn seiliedig ar eich profiadau.
Bydden ni’n ddiolchgar pe baech yn gallu gadael i ni wybod sut aeth y gwrandawiad drwy gwblhau ein harolwg byr.fynwyr.