Adolygiad o orchymyn sylwedd

Os bydd panel yn atal nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio, neu’n gosod cyfyngiadau ar eu hymarfer, bydd hyn am gyfnod penodol o amser. Cyn i’r amser hwn ddod i ben, rhaid i banel newydd benderfynu a yw’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio wedi mynd i’r afael â’i methiannau. Gallant benderfynu gadael i’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio ddychwelyd i ymarfer, neu ymestyn neu gynyddu’r sancsiwn.

Aelod y panel

Aelodau’r panel yw’r rhai sy’n gwneud penderfyniad mewn gwrandawiad. Byddan nhw’n clywed y dystiolaeth ac yn penderfynu cyfyngu ar neu atal y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio rhag ymarfer.

Amhariad

Rydym ni’n dweud bod rhywun wedi’i amharu os nad ydym yn credu ei fod yn addas i ymarfer ar hyn o bryd. Mae gwahanol gategorïau lle gall rhywun fod wedi’i amharu, megis camymddwyn, diffyg cymhwysedd neu iechyd.

Amodau ymarfer

Gall ein paneli osod cyfyngiadau ar sut mae nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn gwneud eu swydd nes ein bod ni’n fodlon eu bod nhw wedi dysgu o gamgymeriadau blaenorol a gallan nhw ymarfer yn ddiogel.

Weithiau, gallwn gytuno ar sancsiwn gyda nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio os ydyn nhw’n cyfaddef yr honiadau yn eu herbyn. Mae hyn yn golygu nad oes angen i ni gynnal gwrandawiad llawn. Byddwn ni bob tro yn cysylltu â’r bobl sydd wedi codi’r pryderon gyda ni i geisio eu barn cyn cytuno ar y sancsiwn. Canfod mwy am y broses hon.

Archwilydd achosion

Ar ôl i ni orffen ein hymchwiliad, mae archwilydd achosion yn ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd ac yn penderfynu a dylid anfon yr achos i wrandawiad y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, neu a ellir cau’r achos gael ei gau.

Asesydd cyfreithiol

Byddwch chi’n gweld asesydd cyfreithiol os byddwch chi’n mynychu un o’n gwrandawiadau. Mae asesydd cyfreithiol yn gyfreithiwr cymwysedig sydd â’r rôl o gynghori’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar y broses gyfreithiol gywir, ond nid yw’n cael ei gynnwys mewn gwneud penderfyniadau.

Cofrestrai

Efallai byddwch chi’n clywed y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio yn cael eu galw’n gofrestrai yn ystod gwrandawiad.

Croesholi

Y person cyntaf fydd yn gofyn cwestiynau i chi yn ystafell y gwrandawiad fydd cyflwynydd yr achos dros yr NMC. Byddan nhw’n gofyn am beth ddigwyddodd a dylech ateb yn onest, hyd orau gallwch chi. Bydd y cwestiynau’n seiliedig ar gynnwys y datganiad tyst rydych chi wedi’i roi i ni. Gall cyflwynydd yr achos hefyd eich cyfeirio at ddogfennau eraill, sy’n cael eu hadnabod fel arddangosion.

Bydd gan y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio, neu eu cynrychiolydd, os yw’n bresennol y cyfle i ofyn rhai cwestiynau i chi. Mae hyn er mwyn iddyn nhw allu profi’ch tystiolaeth a gwneud yn siŵr bod eich stori yn gywir, i sicrhau bod y gwrandawiad yn deg.

Gall eu cwestiynau ganolbwyntio ar y rhannau o’ch tystiolaeth nad ydyn nhw’n eu derbyn. Mae hyn yn cael ei alw’n croesholi. Rydym ni’n gwybod gall hyn fod yn heriol iawn a gall achosi pryder cyn gwrandawiad. Bydd Cadeirydd y panel yn gwneud yn siŵr bod pob cwestiwn yn briodol.

Yna, bydd aelodau’r panel yn gofyn rhai cwestiynau i chi os hoffan nhw wneud unrhyw rannau o’ch tystiolaeth chi yn fwy eglur a bydd hyn y neu helpu nhw i ddeall y dystiolaeth maen nhw wedi ei glywed yn well.

Mae’n berffaith iawn gofyn am gwestiynau i’w cael eu hailadrodd neu ddweud nad ydych chi’n deall cwestiwn.

Cydlynydd yr achos/swyddog ymchwilio

Dyma un o’n staff sy’n rheoli a goruchwylio’r achos. Gallwch chi gysylltu â nhw gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am yr achos.

Cyflwynydd yr achos

Dyma gyfreithiwr yr NMC a fydd yn cyflwyno’r achos mewn gwrandawiad.

Cyhuddiadau

Honiadau yn erbyn y nyrs, y fydwraig neu’r gydymaith nyrsio gan yr NMC.

Dileu gwirfoddol

Os yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn cyfaddef yr amharwyd eu hymarfer, efallai y dymunent gael eu tynnu’n barhaol oddi ar ein cofrestr heb yr angen am wrandawiad llaw, Mae hyn yn cael ei alw’n dileu gwirfoddol.

Dim achos i’w ateb

Dyma pan all Archwilwyr yr Achos benderfynu nad oes angen anfon yr achos am wrandawiad, ac, yn lle hynny, maen nhw’n cau’r achos.

Ffeithiau, amharu, a chamau sancsiynu

I ddechrau bydd y panel yn ystyried y cyhuddiadau a’r dystiolaeth a osodwyd allan gan gyflwynydd yr achos, ynghyd ag ymateb y nyrs, y fydwraig a’r cydymaith nyrsio i’r cyhuddiadau. Bydd y panel wedyn yn penderfynu ar ffeithiau’r achos.

Os yw’r panel yn canfod unrhyw un o’r ffeithiau wedi’i brofi, byddan nhw’n mynd ymlaen i ystyried a yw addasrwydd i ymarfer y nyrs y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio wedi’i amharu, hynny yw, a yw’r nyrs y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio yn addas i gynnal ei dyletswyddau.

Os yw’r panel yn canfod fod addasrwydd i ymarfer y nyrs y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio wedi’i amharu, byddan nhw’n mynd ymlaen i ystyried pa sancsiwn, os yw’n berthnasol, dylen nhw ei osod.

Gohiriadau

Gallai’r panel benderfynu oedi’r gwrandawiad. Bydd y panel yn gohirio am ginio, ac ar gyfer egwylion ac ar ddiwedd pob dydd. Os ydych chi angen egwyl yn ystod rhoi’ch tystyiolaeth, gadewch i’r panel wybod. Efallai bydd angen ar y panel i gael toriad am gyfnodau hirach mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, os oes angen ar y partïon amser drafod rhywbeth neu os ydyn nhw angen rhagor o ddogfennaeth neu dystiolaeth a fyddai’n berthnasol i’r achos.

Gorchymyn atal

Gall panel benderfynu mai’r ffordd orau o ddiogelu’r cyhoedd yw atal y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio rhag ymarfer am gyfnod o amser (hyd at 12 mis). Cyn i’r amser ddod i ben, gallwn ni adolygu’r gorchymyn i weld a oes angen iddo barhau.

Gorchymyn dileu

Bydd hyn yn tynnu’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio o’n cofrestr, sy’n golygu na allan nhw ymarfer fel nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn Lloegr. Gall nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio wneud cais i gael ei rhoi yn ôl ar y gofrestr, a adnabyddir fel adfer, ar ôl cyfnod o bum mlynedd. Bydd y cais hwn yn cael ei ystyried gan banel.

Gorchymyn dros dro

Os ydyn ni’n meddwl bod nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn berygl i’r cyhoedd, neu eu hunain, yn ystod ein hymchwiliad byddwn ni’n gofyn am orchymyn dros dro. Gall panel benderfynu cyfyngu ymarfer nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio, drwy geisio am amodau dros dro gorchymyn ymarfer. Neu os ydyn nhw’n credu fod y risg yn ddifrifol, byddan nhw’n eu hatal rhag ymarfer nes bydd yr ymchwiliad yn dod i ben. Mae hwn yn cael ei adnabod fel gorchymyn atal dros dro.

Gorchymyn rhybudd

Mae hyn yn rhybuddio nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio, ond nid yw’n eu hatal rhag ymarfer. Bydd cofnod ffurfiol o’r rhybudd ar gofrestr yr NMC. Bydd y panel yn gwneud penderfyniad ar ba hyd fydd gorchymyn rhybudd, gydag uchafswm o bum mlynedd.

Penderfyniad

Mae’r panel yn cynhyrchu penderfyniad ysgrifenedig ar ddiwedd pob cam o’r gwrandawiad. Gelwir hyn yn benderfyniad.

Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer

Os bydd achos yn cael ei anfon am wrandawiad yna adnabyddir y bobl sy’n gwneud y penderfyniad fel aelodau’r panel. Mae’r rhain yn bobl annibynnol sy’n cael eu hapwyntio i’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer.

Sancsiwn

Cyfyngiad mae panel yn ei roi ar gofrestriad rhywun. Gall hyn amrywio o orchymyn rhybudd i ddileu o’r gofrestr.

Tystiolaeth

Bydd y panel yn clywed tystiolaeth gan dystion sy’n mynychu’r gwrandawiad a byddan nhw hefyd yn darllen dogfennau. Mae hyn yn rhan o’r dystiolaeth y byddan nhw’n ei hystyried. Gallai’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio ddewis dod â thystion gyda nhw er mwyn cefnogi eu hachos. Gallai’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio hefyd roi tystiolaeth i’r panel eu hunain.

Y Cod

Dyma’r Cod rydym ni’n ei osod ar nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio i'w ddilyn a’i gynnal er mwyn cadw eu cofrestriad gyda ni. Os yw nyrs neu fydwraig yn torri’r Cod, gallwn ni ymchwilio os ydyn nhw’n addas i ymarfer.