Mae’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn cynnal cyfarfodydd a gwrandawiadau er mwyn ystyried achosion o addasrwydd i ymarfer a phenderfynu’r canlyniad priodol.

Mae ychydig o wahaniaethau rhwng cyfarfodydd a gwrandawiadau, ond y gwahaniaeth allweddol yw na fyddwch chi’n cael eich gofyn i fynychu cyfarfod tra bydd angen efallai i chi fynychu gwrandawiad.

Mae’n ddealladwy teimlo’n bryderus am fynychu’r gwrandawiad, ond byddwn ni ddim ond yn gofyn i chi fod yn rhan o un os ydyn ni’n credu bod eich cynnwys chi yn yr achos yn angenrheidiol.

Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl na allwch ychwanegu rhywbeth, bydd y person sy’n ymchwilio i’r achos wedi astudio’r dystiolaeth ac wedi penderfynu eu bod angen clywed mwy gennych chi neu angen dogfennau y gall eu bod gennych i ganfod yn hollol beth ddigwyddodd.

Darllenwch ein gwybodaeth fanwl am fod yn dyst

Atebion i rai o’ch cwestiynau

Ble cynhelir ein gwrandawiadau?

Mae’r rhan fwyaf o’n gwrandawiadau ffisegol yn cymryd lle yn Llundain, Belfast, Caerdydd neu Gaeredin. Fodd bynnag, mae llawer o’n gwrandawiadau’n cael eu cynnal yn rhithwir hefyd.

Allwch chi hawliau treuliau pan fyddwch yn mynychu gwrandawiad?

Os ydych chi’n cymryd rhan mewn gwrandawiad ffisegol, byddwn yn talu eich costaub teithio.

Byddwn ni’n cysylltu mewn da bryd cyn y gwrandawiad i archebu’ch taith i ac o’n lleoliadau ac unrhyw lety mae’n bosibl byddwch chi ei angen.

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch chi’n gallu hawlio’n ôl treuliau, enillion a gollwyd a gallwn gefnogi gyda chostau gofal plant.

Darllenwch ein gwybodaeth fanwl am dreuliau a beth rydym ni ei gynnwys.

Allwch chi ddod â rhywun gyda chi?

Gallwch chi ddod â rhywun gyda chi i’ch cefnogi mewn gwrandawiad.

Mewn gwrandawiadau ffisegol, byddan nhw’n gallu eistedd gyda chi yn ystafell aros y tystion ac eistedd yn ystafell y gwrandawiad tra byddwch chi’n rhoi’ch tystiolaeth.

Canfod mwy am baratoi ar gyfer gwrandawiad fel tyst

Allwn ni helpu gyda gofal plant?

Gallwn ni helpu gyda chostau gofal plant. Cysylltwch â ni neu edrychwch ar ein gwybodaeth fwy manwl am dreuliau.

Allwn ni ddim edrych ar ôl plant tra byddwch chi’n rhoi’ch tystiolaeth, felly ddylech chi ddim dod â nhw i ganolfan y gwrandawiad.

Os ydych chi’n dod â’ch plant gyda chi, dewch ag oedolyn arall i edrych ar eu holau tra byddwch chi’n rhoi’ch tystiolaeth. Allwn ni ddim ond cytuno i dalu am y person rydych yn dod gyda chi mewn amgylchiadau eithriadol (er enghraifft, os ydych chi angen dod â’ch babi gyda chi gan eich bod yn bwydo ar y fron).

Pa mor hir fydd y gwrandawiad yn ei gymryd?

Mae hyn yn amrywio o achos i achos. Weithiau, bydd angen ar y panel i ohirio neu gail saib am resymau penodol, ond byddwch yn cael y newyddion diweddaraf trwy gydol yr amser rydych chi gyda ni.

Rydym ni’n ceisio gwneud yn siŵr eich bod chi’n gorffen rhoi’ch tystiolaeth ar y dyddiau a ofynnwyd i chi fynychu.

Os nad yw hyn yn bosibl, ac mae rhaid i'r achos barhau’r diwrnod canlynol, gallwn ni ofyn i chi ddod yn ôl. Oherwydd hyn, byddwn ni’n trefnu eich llety ac yn ail-drefnu’ch taith.

Os nad ydych chi wedi gorffen rhoi’ch tystiolaeth erbyn diwrnod olaf y gwrandawiad, efallai gallwn ofyn i chi ddod yn ôl ar ddyddiadau gwrandawiad newydd. Byddwn ni’n cysylltu â chi er mwyn trefnu’r dyddiadau newydd a’ch taith a’ch llety.

Canfod mwy am amserlenni gwrandawiadau