NMC logo CymraegRydym yn bodoli i ddiogelu'r cyhoedd a phennu'r safonau ar gyfer addysg, hyfforddiant, ymddygiad a pherfformiad er mwyn i nyrsys a bydwragedd allu darparu gofal iechyd o safon uchel drwy gydol eu gyrfaoedd.

Rydym yn sicrhau bod gan nyrsys a bydwragedd y sgiliau a'r wybodaeth ddiweddaraf a'u bod yn cynnal ein safonau proffesiynol. Mae gennym brosesau clir a thryloyw i ymchwilio i nyrsys a bydwragedd nad ydynt yn cyrraedd ein safonau, ac rydym yn cadw cofrestr o nyrsys a bydwragedd y caniateir iddynt ymarfer yn y DU.

Beth i’w ddisgwyl gan fydwragedd a nyrsys cofrestredig

Mae’n bwysig bod pawb yn teimlo’n hyderus ynghylch y gofal y gallant ei ddisgwyl gan y nyrsys a’r bydwragedd sydd ar ein cofrestr.

Rydym wedi cyflwyno safonau newydd ar gyfer nyrsys a bydwragedd yn y DU, gan eu cefnogi i ddarparu gofal caredig, diogel ac effeithiol nawr ac yn y dyfodol. O ganlyniad, mae ein nyrsys a’n bydwragedd ar flaen y gad o ran gwella iechyd a lles pobl.

Rydym wedi gwneud dau animeiddiad byr i’ch helpu i ddeall beth allwch chi ei ddisgwyl gan eich nyrs neu fydwraig:

Addasrwydd i ymarfer

Beth yw ystyr addasrwydd i ymarfer

Mae bod yn addas i ymarfer yn golygu bod gan nyrs neu fydwraig y sgiliau, y wybodaeth, yr iechyd da a'r cymeriad da i wneud ei gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol.

Rhaid i bob nyrs a bydwraig gymwysedig ddilyn Y Cod: Safonau ymarfer proffesiynol ac ymddygiad ar gyfer nyrsys a bydwragedd.Safonau ymarfer proffesiynol ac ymddygiad ar gyfer nyrsys a bydwragedd. Byddwn yn ymchwilio os honnir nad yw nyrs neu fydwraig yn cyrraedd ein safonau o ran sgiliau, addysg ac ymddygiad. Lle bo angen, byddwn yn gweithredu drwy ei thynnu oddi ar y gofrestr yn barhaol neu am gyfnod penodol o amser.

Mae'n ofynnol i ni lunio adroddiad addasrwydd i ymarfer blynyddol a'i gyflwyno i'r Senedd drwy'r Cyfrin Gyngor, ynghyd â'n hadroddiad blynyddol a chyfrifon.

Darllenwch ein hadroddiad blynyddol ar addasrwydd i ymarfer:

Adroddiad Blynyddol ar Addasrwydd i Ymarfer 2021-2022

Pryderon am nyrs neu fydwraig

Os oes gennych bryderon am nyrs neu fydwraig nad ydych yn credu ei bod yn addas i ymarfer, cysylltwch â ni.

Rydym yn ymchwilio i honiadau amrywiol yn cynnwys y canlynol:

  • camymddwyn
  • diffyg cymhwysedd
  • ymddygiad troseddol
  • salwch difrifol

Ein rôl ni fel rheoleiddiwr yw sicrhau bod addasrwydd i ymarfer nyrsys a bydwragedd yn cyrraedd ein safonau. Nid yw'n ddyletswydd ar gleifion neu'r cyhoedd i benderfynu a yw nyrs neu fydwraig yn addas i ymarfer. Fodd bynnag, gallant godi eu pryderon os byddant yn teimlo fod diogelwch cleifion neu'r cyhoedd mewn perygl.

Nid ydym yn gyfrifol am reoleiddio ysbytai neu leoliadau gofal iechyd eraill. Nid ydym yn rheoleiddio cynorthwywyr gofal iechyd chwaith.

Ffurflenni Atgyfeirio

Os ydych yn pryderu p'un a yw nyrs neu fydwraig yn addas i ymarfer, gallwch wneud atgyfeiriad drwy ddefnyddio un o'r ffurflenni atgyfeirio.

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd, defnyddiwch ffurflen atgyfeirio'r cyhoedd.

Os mai chi yw cyflogwr y nyrs neu'r fydwraig yr hoffech wneud atgyfeiriad amdani, defnyddiwch y ffurflen cyflogwr.

Dylai sefydliadau neu unigolion proffesiynol sydd am wneud atgyfeiriad i ni yn rhinwedd ei rôl broffesiynol gwblhau'r ffurflen atgyfeirio trydydd partïon, lle nad oes perthynas cyflogaeth uniongyrchol gyda'r nyrs neu'r fydwraig. Gall hyn gynnwys cyrff rheoleiddio eraill, meddyg sy'n atgyfeirio nyrs neu fydwraig ar ran ei sefydliad neu swyddog yr heddlu yn gwneud atgyfeiriad ar ran yr heddlu.

Os hoffech wneud cyfeiriad amdanoch eich hun, defnyddiwch y ffurflen hunan-gyfeiriad.

Ein hymrwymiadau cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth y nyrsys a'r bydwragedd sydd ar ein cofrestr, ein staff a’r gymuned ehangach rydym yn ei gwasanaethu. Hoffem adlewyrchu'r amrywiaeth hon ym mhopeth a wnawn.

Fel corff cyhoeddus, mae'n rhaid i ni fodloni gofynion dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac un o'r gofynion hyn yw cyhoeddi ein hamcanion cydraddoldeb. Drwy ein hamcanion cydraddoldeb, ein nod yw dangos sut rydym yn darparu cyfartaledd cyfle ym mhob maes o'n gwaith.

Mae ein cynllun gweithredu amcanion cydraddoldeb yn egluro'r hyn rydym yn ei wneud i hyrwyddo pob grŵp cydraddoldeb, gan gynnwys oedran, anabledd, rhyw, pennu rhywedd, priodas/partneriaeth sifil, beichiogrwydd, hil, crefydd neu gred, a chyfeiriadedd rhywiol.

Darllenwch ein hadroddiadau blynyddol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth

 

Ein strategaeth

Mae ein strategaeth gorfforaethol ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn amlinellu'r ffordd y byddwn yn datblygu ein gwaith er mwyn diogelu cleifion a'r cyhoedd yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae'n gosod systemau rheoleiddio dynamig wrth wraidd yr hyn a wnawn ac yn nodi ble, yn ein barn ni, y dylem dargedu ein hymdrechion a'n hadnoddau er mwyn hyrwyddo safonau gofal ac ymarfer.

Strategaeth 2020–2025

Ein Cynllun Corfforaethol

Mae ein cynllun Corfforaethol ar gyfer 2017-2018 yn gysylltiedig â'r themâu a amlinellir yn Strategaeth 2015-2020 ac yn nodi ein nodau a'n hamcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae cynllun Corfforaethol 2017-2018 hefyd yn newid i gylch cynllunio blwyddyn sy'n cyferbynnu â chylchoedd cynllunio tair blynedd cynlluniau blaenorol.

Cynllun corfforaethol 2022-2025

Ein fframwaith cyfreithiol

Yn debyg i reoleiddwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, mae gennym gyfres o ddeddfwriaeth lywodraethu. Ein prif ddeddfwriaeth yw Gorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 ('y Gorchymyn') a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002. Mae ein deddfwriaeth yn nodi pwy rydym yn eu rheoleiddio, ein rôl a'n swyddogaethau, sut rydym yn mynd i'r afael â'r swyddogaethau hynny a hawliau, rhwymedigaethau a phwerau penodol sydd gennym ni a nyrsys a bydwragedd.

Sefydlodd y Gorchymyn ein sefydliad ac mae'n amlinellu ein prif bwrpas, sef diogelu'r cyhoedd, strwythur y sefydliad a'n swyddogaethau a'n gweithgareddau. Mae'r Gorchymyn hefyd yn amlinellu rhai egwyddorion rhwymol a threfniadau goruchwylio ar ein cyfer. Rydym yn atebol i'r Cyfrin Gyngor, yr Adran Iechyd a'r Awdurdod Safonau Proffesiynol.

Goruchwylio

Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol

Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PSA) sy'n goruchwylio ein gwaith. Sefydlwyd yr Awdurdod Safonau Proffesiynol gan y Senedd er mwyn goruchwylio gwaith pob rheoleiddiwr gofal iechyd proffesiynol yn y DU a gwaith cymdeithasol yn Lloegr.

Mae'n adolygu ein perfformiad cyffredinol bob blwyddyn ac yn cyflwyno adroddiad ar hyn i'r Senedd. Caiff ein perfformiad ei asesu yn erbyn Safonau Rheoleiddio Da yr Awdurdod Safonau Proffesiynol.

Y Pwyllgor Dethol ar Iechyd

Caiff y Pwyllgor Dethol ar Iechyd ei benodi gan Dŷ'r Cyffredin er mwyn archwilio polisi, gweinyddiaeth a gwariant yr Adran Iechyd a chyrff cysylltiedig. Mae 11 o ASau yn aelodau o'r pwyllgor a gaiff ei gadeirio gan Dr Sarah Wollaston AS ar hyn o bryd.

Ers 2011, mae'r pwyllgor wedi cynnal gwrandawiadau atebolrwydd blynyddol â ni. Rydym yn croesawu'r ffordd mae'r pwyllgor yn craffu ar ein gwaith ac yn cymryd ei argymhellion o ddifrif. Yn ogystal â rhoi tystiolaeth ar lafar, rydym yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig ar ein cynnydd mewn ymateb i'w wrandawiadau atebolrwydd yn ogystal ag ymchwiliadau eraill y pwyllgor.

Y Comisiwn Elusennau

Rydym wedi'n cofrestru fel elusen gofrestredig gyda'r Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr (rhif 1091434) ac yn yr Alban gyda Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban (OSCR) (rhif SC038362).

Ein hamcan elusennol yw diogelu iechyd a lles y cyhoedd.

Adroddiadau blynyddol a chyfrifon

Bob blwyddyn, rydym yn cyflwyno ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon i'r Senedd drwy'r Cyfrin Gyngor. Mae ein hadroddiad blynyddol yn amlinellu ein hamcanion, yn disgrifio'r hyn rydym wedi'u cyflawni yn ystod y flwyddyn ac yn egluro ein dull o lywodraethu, ein hadnoddau ariannol a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Fel elusen gofrestredig, rydym hefyd yn cyflwyno ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon i'r Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr ac i Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban (OSCR). Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod ein gwaith yn dangos budd i'r cyhoedd ac yn cydymffurfio â gofynion y Comisiwn Elusennau a gofynion a chanllawiau'r Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban (OSCR).
Darllenwch ein hadroddiad blynyddol:

Adroddiad Blynyddol 2016-2017

Pobl rydym yn gweithio gyda hwy

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion ledled pedair gwlad y DU er mwyn diogelu'r cyhoedd. Mae'r rhain yn cynnwys rheoleiddwyr eraill, grwpiau cleifion, undebau llafur, cyflogwyr ac addysgwyr, yn ogystal â'r nyrsys a'r bydwragedd sydd ar ein cofrestr.

Mae gennym nifer o grwpiau cynghori sy'n ein helpu i ddatblygu ein gwaith. Mae'r grwpiau'n cynnwys y Grŵp Cynghori Strategol Proffesiynol sy'n cynnwys uwch nyrsys a bydwragedd a'r Grŵp Cynghori Cleifion a'r Cyhoedd sy'n cynnwys cynrichiolwyr o grwpiau cleifion.

Ymuno â'r gofrestr (ar ôl hyfforddi yn y DU)

Rydym yn cadw cofrestr tua 690,000 o nyrsys a bydwragedd. Ein nod yw cwblhau ceisiadau i gofrestru cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau y caiff hyn ei wneud yn gywir er mwyn diogelu'r cyhoedd.

Rydym yn derbyn rhwng 8,000 a 9,000 o enwau gan sefydliadau addysg bob mis Medi a 2,000 bob mis Mawrth.

Os nad ydych wedi cofrestru ar gwrs eto, gweler ein rhestr o raglenni sydd wedi'u cymeradwyo.

Cynllun iaith Gymraeg

Rydym yn ymrwymedig i gynnig ein gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg. Mae ein cynllun iaith Gymraeg yn nodi sut rydym yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Pennodd y Ddeddf y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal mewn busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

Cynllun Iaith Gymraeg – Fersiwn Cymraeg
Cynllun Iaith Gymraeg – Fersiwn Saesneg

 

Mae cyhoeddiadau ar gyfer y cyhoedd ar gael yn Gymraeg. Caiff safonau a chanllawiau proffesiynol eu cyfieithu ar gais.

Gweler rhai o'n cyhoeddiadau yn Gymraeg isod.

Y Cod

Y Cod: Safonau ymarfer proffesiynol ac ymddygiad ar gyfer nyrsys a bydwragedd

Cod yr NMC: Staff proffesiynol, gwasanaethau o safon

Gofal da gan nyrsys a bydwragedd

Gofal da gan nyrsys a bydwragedd - fersiwn Hawdd ei ddeall

Ailddilysu

Sut i ail-ddilysu gyda'r NMC

Y broses ailddilysu: Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Gwybodaeth i Gadarnhawyr

 

Safonau ar gyfer addysg nyrsio cyn cofrestru

Safonau ar gyfer addysg bydwreigiaeth cyn cofrestru

Canllawiau ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol 

Gweithredu mewn ffordd agored a gonest pan fydd pethau yn mynd o le: dyletswydd broffesiynol gonestrwydd

Gofal a pharch bob amser

Hyfforddi nyrsys a bydwragedd: Diogelu'r cyhoedd drwy bennu safonau addysg

Addysgu nyrsys a bydwragedd: Taflen ffeithiau'r CNB

Goruchwylio bydwragedd: Taflen ffeithiau'r CNB

Codi pryderon am nyrsys neu fydwragedd

Ymgynghoriad ynghylch gofynion iaith Saesneg a’r broses o gofrestru â'r NMC

 

Gallwch ddarllen y wefan gyfan hon, neu wrando arni, yn Gymraeg drwy ddefnyddio Browsealoud, sef adnodd defnyddiol sy'n defnyddio meddalwedd cymorth i ddarllen a chyfieithu testun ar-lein.