Defnyddio ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg

Rydym yn ymrwymedig i gynnig ein gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg.

Cyfathrebu

Gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg, drwy lythyr neu e-bost.

Galwadau ffôn:

Nid oes gennym staff sy'n siarad Cymraeg ar hyn o bryd, felly caiff galwadau ffôn eu hateb yn Saesneg yn unig. Os hoffech gyfathrebu yn Gymraeg, cewch ddewis parhau â'r sgwrs yn Saesneg, neu ysgrifennu atom yn Gymraeg. Rydym yn adolygu'r opsiwn o allu delio â galwadau ffôn yn Gymraeg.

Cwynion

Gallwch wneud cwyn yn Gymraeg, drwy lythyr neu e-bost. Fodd bynnag, pan fydd cwynion yn rhai cymhleth iawn, a bod angen ymateb iddynt ar frys, mae gennym yr hawl i benderfynu ar y ffordd fwyaf effeithlon o ddelio â nhw. Felly, mae'n bosibl y byddwn yn trin y gwŷn naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, rhag ymestyn y broses mewn ffordd sy'n annheg i'r achwynydd neu'r nyrs neu fydwraig.

Cyfarfodydd

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd, sy'n bwriadu mynychu ein cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru, siarad yn Gymraeg (rhowch rybudd i ni o flaen llaw).

Bydd hysbysiadau o gyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd ag unrhyw agendâu a chofnodion, yn ddwyieithog.

Hunaniaeth gorfforaethol

Mae gennym fersiynau Cymraeg o'n logo, ein hunaniaeth gorfforaethol a'n penawdau llythyr.

Cyhoeddiadau

Bydd cyhoeddiadau ar gyfer y cyhoedd ar gael yn Gymraeg. Caiff safonau a chanllawiau proffesiynol eu cyfieithu ar gais.

Datganiadau i'r wasg a hysbysebu

Byddwn yn cyhoeddi datganiadau i'r wasg dwyieithog yng Nghymru pan fydd hynny'n berthnasol. Caiff cyfieithiadau eu darparu ar gais. Bydd hysbysebu a chyhoeddusrwydd yng Nghymru yn ddwyieithog, a hefyd hysbysebion mewn cylchgronau a phapurau newydd.

Gwrandawiadau

Bydd yn bosibl gwneud cwyn am nyrs neu fydwraig yn Gymraeg.

Gall unigolyn siarad Cymraeg mewn gwrandawiad. Pan roddir gwybod i ni fod aelod cofrestredig neu rywun sy'n gysylltiedig â'u hachos, megis tyst, yn dymuno siarad Cymraeg, byddwn yn galluogi iddynt wneud hynny drwy ddefnyddio cyfieithydd cymwysedig addas. Mae angen 28 diwrnod o rybudd arnom i'n galluogi i wneud hyn yn effeithiol.

Cynllun iaith Gymraeg

Mae ein cynllun iaith Gymraeg yn nodi sut rydym yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae hyn yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a sefydlodd yr egwyddor y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Mae ein pecyn dadansoddi cydraddoldeb yn edrych ar oblygiadau iaith Gymraeg.

Cafodd ein cynllun iaith Gymraeg ei gyflwyno ym mis Ionawr 2011 a chafodd ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sydd bellach wedi'i ddisodli gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Byddwn yn monitro'r cynllun iaith Gymraeg ac yn adrodd ar ein cynnydd i'n Cyngor ac i Gomisiynydd y Gymraeg yn flynyddol.

Rhagor o wybodaeth

Adroddiad monitro'r cynllun iaith Gymraeg

Using our services in Welsh

We are committed to offering our services in both English and Welsh.

Communications

You can write to us in Welsh, by letter or email.

Telephone calls

We do not have any Welsh-speaking staff at present, so telephone calls will be offered in English. If you wish to communicate in Welsh, you will be given the option of continuing the call in English or writing to us in Welsh. We are reviewing the option of being able to deal with calls in Welsh.

Complaints

You can make a complaint to us in Welsh, by letter or email. However, where complaints are of an extremely urgent and complex nature we maintain the right to decide on the most efficient way to handle them. Therefore we may handle the complaint in either English or Welsh so as not to unfairly prolong the process for either the complainant or the nurse or midwife.

Meetings

Members of the public who intend to attend our public meetings in Wales are welcome to speak in Welsh (please give us prior notice).

Notices of public meetings in Wales will be bilingual, along with any agendas or minutes.

Corporate identity

We have Welsh versions of our logo, corporate identity and letterhead.

Publications

Publications aimed at members of the public will be available in Welsh. Professional standards and guidance will be translated upon request.

Press and advertising

We will issue bilingual press releases and statements to the media in Wales where relevant. Translations will be provided on request. Advertising and publicity in Wales will be presented bilingually, as will magazine and newspaper advertising.

Hearings

It will be possible to make a complaint about a nurse or midwife in Welsh. 
A person will be able to speak at a hearing in Welsh. When we are told that a registrant or someone connected with their case, such as a witness, wishes to speak Welsh we will enable them to do so through the use of suitably qualified translators. We require 28 days notice to enable us to do this effectively.

Welsh language scheme

Our Welsh language scheme sets out how we treat the Welsh and English languages equally. This is in line with the Welsh Language Act 1993, which established that in public business and the administration of justice in Wales the English and Welsh languages should be treated equally. Our equality analysis toolkit looks at Welsh language implications.

Our Welsh language scheme was introduced in January 2011 and has been approved by the Welsh Language Board, which is now replaced by the Welsh Language Commissioner.

We will monitor the Welsh language scheme and will report annually on our progress to our Council and the Welsh Language Commissioner.

More information

Welsh language monitoring reports:

These monitoring report sets out our compliance with our Welsh language scheme.