Mae llais y cyhoedd a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal o bwys ym mhopeth rydym yn ei wneud.

Fel rheoleiddiwr proffesiynol, rydym yma i hyrwyddo a chynnal safonau uchel mewn nyrsio a bydwreigiaeth – y mae gan y cyhoedd hawl i’w ddisgwyl.

Gwnaethom ymrwymiad eglur yn our strategy i ymgysylltu â’r cyhoedd a’u grymuso, ac mae ein huchelgeisiau yn y maes hwn yn parhau i dyfu.

Rydym am ddeall eich profiadau a’ch anghenion yn well i helpu ffurfio yr hyn rydym yn ei wneud fel rheoleiddiwr, ac i helpu gwella iechyd a gofal cymdeithasol i bawb.

Sut allaf i gymryd rhan?

  • Gallwch rannu eich barn a’ch profiad i ffurfio ein cynlluniau a llywio ein gwaith. Gallai hyn fod yn waith fel y safonau rydym yn eu gosod ar gyfer nyrsio a bydwreigiaeth, neu wella ein cymorth i’r cyhoedd sy’n codi pryderon â ni.
  • Gallech gydgynhyrchu polisïau neu safonau gyda ni, a chymryd rhan mewn trafodaethau neu gyfweliadau er mwyn i’ch profiad o iechyd a gofal ddylanwadu ar yr hyn rydym yn ei wneud.
  • Weithiau byddwch yn gweithio gyda ni i helpu gwella sut rydym yn cyfathrebu. Gallai hyn fod yn sicrhau ein bod yn rhannu’r wybodaeth gywir, a bod yr hyn rydym yn ei ddweud yn ddefnyddiol ac yn eglur.

Beth fyddaf i yn cael allan ohono?

Bydd yn amrywio o unigolyn i unigolyn, ond gallai fod y cyfle i:

  • wneud gwahaniaeth a defnyddio eich profiad o iechyd a gofal cymdeithasol i wella gwasanaethau i eraill
  • dysgu sgiliau newydd ac i ddatblygu eich gwybodaeth
  • rhannu syniadau a phrofiadau.

Pa gymorth fyddaf i’n ei dderbyn?

  • Byddwn yn rhoi digon o rybudd o weithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt.
  • Byddwn yn gwneud i chi deimlo wedi’ch croesawu, ac yn eich cynorthwyo i gymryd rhan.
  • Os oes angen cymorth neu addasiadau ychwanegol arnoch i gymryd rhan yn llawn, byddwn yn gwneud popeth a allwn i’ch cynorthwyo.
  • Ar gyfer rhai gweithgareddau, gallwn wneud taliad cyfranogaeth, yn ogystal â thalu costau megis costau teithio.

Hoffwn i ddysgu mwy – beth ydw i’n ei wneud?

E-bostiwch publicengagement@nmc-uk.org heddiw am sgwrs anffurfiol a rhagor o wybodaeth. Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych.

Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth, ac yn cynnwys pawb yn ein gwaith. Rydym yn awyddus i glywed gan bobl ledled y DU, o bob cefndir a rhan o fywyd.

Ffyrdd eraill o gymryd rhan