Pan fyddwn ni’n derbyn eich pryder am rywun ar ein cofrestr, mae’n mynd i’n tîm sgrinio, sy’n asesu a ddylai mynd yn ei flaen drwy ein proses o addasrwydd i ymarfer.

Beth mae ein tîm sgrinio yn ei wirio?

Mae ein tîm sgrinio yn gwirio amryw o bethau gwahanol, gan gynnwys:

  • Cam un: Oes gynnon ni bryder ysgrifenedig am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn ein cofrestr?

  • Cam dau: Oes tystiolaeth o bryder difrifol a allai olygu bod angen i ni weithredu mewn modd rheoliadol er mwyn diogelu’r cyhoedd?

  • Cam tri: Oes tystiolaeth glir i ddangos bod y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio yn addas i ymarfer ar hyn o bryd?

Sut rydym ni’n pennu difrifoldeb

Mae difrifoldeb yn gysyniad pwysig sy’n ein helpu ni benderfynu os dylen ni weithredu.

I bennu difrifoldeb pryder, rydym ni’n edrych ar y risgiau a allai godi pe na fyddai’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio ddim yn ateb y pryder neu’n gwneud iawn amdano. Gallai hyn gynnwys risgiau i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau, ac mewn rhai achosion, hyder y cyhoedd ym mhob nyrs, bydwraig a chydymaith nyrsio.

Drwy ganolbwyntio ar y risgiau hyn, gallwn ni weld beth allai’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio ei wneud i ateb y materion a godwyd neu pa gamau efallai bydd angen i ni eu cymryd os nad ydyn nhw’n eu hateb.

Rydym ni ond yn gweithredu os ydyn ni’n credu bod y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio yn peri risg i’r cyhoedd, neu beth maen nhw wedi ei wneud mor ddifrifol y byddai’n niweidio ymddiriedolaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth.

Beth sy’n digwydd os nad ydyn ni’n mynd â’ch pryder yn ei flaen

Os yw’r tîm sgrinio yn penderfynu na allwn ni helpu gyda’ch pryder neu nid oes angen ei ymchwilio gan nad yw’n cwrdd â’r meini prawf a restrir uchod, byddan nhw’n ysgrifennu atoch chi i adael i chi wybod pam.

Rydym ni’n gwybod gall hyn fod yn newyddion anodd eu clywed, ac efallai bod gennych chi lawer o gwestiynau, felly cysylltwch â ni os oes angen i chi drafod am fynd ag ef ymhellach.

Fodd bynnag, pe bai gennych chi bryderon difrifol am ein penderfyniad neu fod gennych chi wybodaeth ychwanegol, berthnasol nad oedd gynnon ni pan fu i ni wneud y penderfyniad, cysylltwch â’ch swyddog achos.

Eiriolwyr

Mae eiriolwr yn berson sy’n siarad i fyny drosoch chi ac yn rhoi eich achos gerbron ar eich rhan ac yn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dilyn gweithdrefnau cywir.

Nid ydynt yn aelod o’r teulu nac yn ffrind ac nid ydynt yn rhan o wasanaethau cymdeithasol na’r GIG.

Bydd eiriolwr yn eich -cefnogi fel gallwch chi gael eich cynnwys gymaint â phosibl mewn penderfyniadau am eich gofal. Er enghraifft, efallai gall eiriolwr helpu chi i gael gwybodaeth neu fynd gyda chi i gyfarfodydd neu gyfweliadau i’ch cefnogi chi. Gallan nhw hefyd eich helpu chi os ydych chi’n gwneud cwyn am y gofal rydych chi neu rywun arall wedi ei dderbyn.

Lloegr
Healthwatch Cysylltwch â’ch Healthwatch lleol i gael mynediad at yr Eiriolaeth Cwynion Annibynnol. Rhwydwaith cenedlaethol o sefydliadau lleol annibynnol sy’n hyrwyddo barn pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr. Mae’n cyfeirio at Eiriolaeth Cwynion Annibynnol a chymorth a sefydliadau cefnogol lleol eraill.
AvMA Yn rhoi cyngor meddygol-gyfreithiol arbenigol am ddim a chefnogaeth gyda gwneud cwynion lle mae pryderon am ddiogelwch cleifion, yn ogystal â chefnogaeth gyda chwestau a phrosesau cyfreithiol eraill.
Cyngor ar Bopeth Yn rhoi cyngor cyfrinachol ac annibynnol i’r cyhoedd ar sut i ddatrys ystod o broblemau.
Cymdeithas Cleifion Yn darparu llinell gymorth i ateb ymholiadau am wasanaethau iechyd gofal y GIG a phreifat, ac yn eirioli am well mynediad at wybodaeth, gofal o ansawdd uchel a chynhwysiad mewn gwneud penderfyniadau.
Dewisiadau GIG Rhestr gynhwysfawr o eiriolwyr
Rethink Mental Illness Yn chwilio am eiriolwr yn arbenigo mewn cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl a gallan nhw helpu canfod un yn agos atoch chi.
Yr Alban
Gwasanaeth Cyngor a Chefnogaeth i Gleifion yr Alban Gwasanaeth annibynnol yn yr Alban sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth am ddim, hygyrch a chyfrinachol i gleifion, eu gofalwyr a’u teuluoedd pan fyddant yn delio â’r GIG.
AvMA Yn rhoi cyngor meddygol-gyfreithiol arbenigol am ddim a chefnogaeth gyda gwneud cwynion lle mae pryderon am ddiogelwch cleifion, yn ogystal â chefnogaeth gyda chwestau a phrosesau cyfreithiol eraill.
Cyngor ar Bopeth Yn rhoi cyngor cyfrinachol ac annibynnol i’r cyhoedd ar sut i ddatrys ystod o broblemau.
Cymdeithas Cleifion Yn darparu llinell gymorth i ateb ymholiadau am wasanaethau iechyd gofal y GIG a phreifat, ac yn eirioli am well mynediad at wybodaeth, gofal o ansawdd uchel a chynhwysiad mewn gwneud penderfyniadau.
Cynghrair Eiriolaeth Annibynnol yr Alban Gall Cynghrair Eiriolaeth Annibynnol yr Alban eich helpu i ddod o hyd i eiriolwr yn yr Alban.
Gogledd Iwerddon
Cyngor Cleifion a Chleientiaid Gogledd Iwerddon Bydd Cyngor Cleifion a Chleientiaid Gogledd Iwerddon yn eich helpu chi i gwyno am unrhyw ran o ofal iechyd a chymdeithasol.
AvMA Yn rhoi cyngor meddygol-gyfreithiol arbenigol am ddim a chefnogaeth gyda gwneud cwynion lle mae pryderon am ddiogelwch cleifion, yn ogystal â chefnogaeth gyda chwestau a phrosesau cyfreithiol eraill.
Cyngor ar Bopeth Yn rhoi cyngor cyfrinachol ac annibynnol i’r cyhoedd ar sut i ddatrys ystod o broblemau.
Cymdeithas Cleifion Yn darparu llinell gymorth i ateb ymholiadau am wasanaethau iechyd gofal y GIG a phreifat, ac yn eirioli am well mynediad at wybodaeth, gofal o ansawdd uchel a chynhwysiad mewn gwneud penderfyniadau.
Dewisiadau GIG Rhestr gynhwysfawr o eiriolwyr.
Cymru
Cyngor Iechyd Cymuned Cymru

Bydd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yn:

  • Rhoi help a chyngor o soes gennych chi broblemau gyda neu gwynion am wasanaethau’r GIG
  • Sicrhau bod eich barn a’ch anghenion yn dylanwadu ar bolisïau a chynlluniau a roddir mewn lle gan ddarparwyr iechyd yn eich ardal chi
  • Monitro ansawdd gwasanaethau’r GIG o’ch safbwynt chi
  • Rhoi gwybodaeth i chi am fynediad at y GIG
AvMA Yn rhoi cyngor meddygol-gyfreithiol arbenigol am ddim a chefnogaeth gyda gwneud cwynion lle mae pryderon am ddiogelwch cleifion, yn ogystal â chefnogaeth gyda chwestau a phrosesau cyfreithiol eraill.
Cyngor ar Bopeth Yn rhoi cyngor cyfrinachol ac annibynnol i’r cyhoedd ar sut i ddatrys ystod o broblemau.
Cymdeithas Cleifion Yn darparu llinell gymorth i ateb ymholiadau am wasanaethau iechyd gofal y GIG a phreifat, ac yn eirioli am well mynediad at wybodaeth, gofal o ansawdd uchel a chynhwysiad mewn gwneud penderfyniadau.
Dewisiadau GIG Rhestr gynhwysfawr o eiriolwyr.

Os yw’r tîm sgrinio yn penderfynu bod angen ymchwilio i’ch atgyfeiriad, byddan nhw’n gadael i chi wybod a’i drosglwyddo i’n tîm ymchwiliadau.

Llinell gymorth atgyfeiriadau

Rydym ni’n deall os ydych chi’n meddwl am godi pryder gyda ni, rydych chi wedi bod ac efallai’n dal i fynd drwy amser anodd.

Mae ein llinell gymorth atgyfeiriadau newydd yn bodoli fel cam cyntaf pwysig os ydych chi’n ystyried codi pryder gyda ni am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio. Gallwn ni helpu egluro mwy am bwy ydyn ni, a ni yw’r lle iawn i ddod, sut gallwn ni eich helpu chi ac yn bwysicaf oll, pa gymorth gallwn ni ei gynnig i chi.

Trwy gysylltu â ni, gallwn eich helpu chi ddeall sut i atgyfeirio nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio. Yna, os ydych chi’n gwneud atgyfeiriad, gallwn ddeall yn well am beth yn union mae’ch cwyn a ymchwilio iddi’n briodol.

Ffoniwch ni ar 020 3307 6802. Bydd rhai galwadau’n cael eu recordio i helpu ni hyfforddi cydweithwyr a monitro ansawdd y cymorth rydym ni’n ei roi. Gallwn ddefnyddio’r recordiad i wirio manylion am atgyfeiriadau a chwynion addasrwydd i ymarfer. Mae mwy o wybodaeth yn ein hysbysiad preifatrwydd.