Rydym ni’n deall os ydych chi’n meddwl am godi pryder gyda ni, rydych chi wedi bod ac efallai’n dal i fynd trwy amser anodd.

Bydd yr wybodaeth yn yr adran hon yn rhoi rhywfaint o gefndir i chi am bwy ydyn ni, ai ni yw’r sefydliad iawn i gysylltu ag ef, sut gallwn ni eich helpu chi ac yn bwysicaf oll, pa gymorth gallwn ni ei gynnig i chi.

Pwy ydyn ni

Yr NMC yw rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol pob nyrs a bydwraig yn y DU a chymdeithion nyrsio yn Lloegr.

Rydym ni’n ymchwilio i bryderon am nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio – rhywbeth sy’n effeithio ar leiafswm bychan iawn o bobl broffesiynol bob blwyddyn. Rydym ni’n credu mewn rhoi’r cyfle i bobl broffesiynol ateb pryderon, ond byddwn ni bob tro’n gweithredu pan fo angen.

Llinell gymorth atgyfeiriadau

Mae ein llinell gymorth atgyfeiriadau’n bodoli fel cam cyntaf pwysig os ydych chi’n ystyried codi pryder gyda ni am nyrs, fydwraig neu gydymaith nyrsio.

Drwy gysylltu â ni, gallwn ni eich helpu chi ddeall sut i atgyfeirio nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio. Yna, os ydych yn atgyfeirio, gallwn ddeall yn well yn hollol am beth mae eich pryder a’i ymchwilio yn briodol.

Galwch ni ar 020 3307 6802. Bydd rhai galwadau’n cael eu recordio i helpu ni hyfforddi cydweithwyr a monitro ansawdd y cymorth rydym ni’n ei roi. Gallwn ddefnyddio’r recordiad i wirio manylion am atgyfeiriadau a chwynion addasrwydd i ymarfer. Mae mwy o wybodaeth yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Cymorth pellach

Mae gynnon ni linell gymorth annibynnol sy’n agored 24/7 a gall gynnig cymorth annibynnol trwy ein proses o addasrwydd i ymarfer.

Os ydych chi angen mwy o gymorth i godi pryder neu yn ystod y broses darllenwch fwy am sut gallwn ni helpu.

Mae gynnon ni hefyd dimau i’ch helpu chi trwy’r holl broses o addasrwydd i ymarfer. Ond os ydych angen cymorth gan sefydliadau eraill, rydym ni wedi rhestru rhai isod a all helpu.

Mwy o sefydliadau a all eich helpu chi yn ystod amseroedd anodd

Eiriolaeth ar ôl Cam-drin Domestig Angheuol
Yn arbenigo mewn arwain teuluoedd trwy ymchwiliadau gan gynnwys adolygiadau o laddiadau domestig ac adolygiadau iechyd meddwl, ac yn cynorthwyo gydag ac yn cynrychioli mewn cwestau, ymchwiliadau Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) ac adolygiadau eraill. 07768 386 922.

Profedigaeth Plant y DU
Yn cefnogi teuluoedd ac yn addysgu pobl broffesiynol pan mae babi neu blentyn o unrhyw oed wedi marw neu’n marw, neu pan mae plentyn neu berson ifanc (hyd at 25 oed) yn wynebu profedigaeth. Mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth i gefnogi plentyn neu berson ifanc sydd mewn profedigaeth. Mae pob cyngor am ddim, yn gyfrinachol, heb derfyn amser, ac mae’n cynnwys sesiynau cymorth wyneb i wyneb a thros y ffôn wedi’u harchebu. 0800 028 8840.

Llinell Gymorth Marwolaeth Plant
Yn darparu llinell gymorth rhadffôn i rywun sydd wedi’i effeithio gan farwolaeth plentyn, o gyn genedigaeth i farwolaeth oedolyn o blentyn, ni waeth pa mor ddiweddar neu’n bell yn ôl a beth bynnag oedd amgylchiadau’r farwolaeth. Mae’n defnyddio gwasanaeth cyfieithu i gefnogi’r rhai nad oes ganddynt y Saesneg yn iaith gyntaf. Mae’r holl wirfoddolwyr sy’n cynnal y llinell gymorth yn rhieni sydd wedi dioddef profedigaeth, er iddynt gael eu cefnogi a’u hyfforddi gan bobl broffesiynol.

Gofal Profedigaeth Cruse
Yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i oedolion a phlant pan fydd rhywun yn marw, dros y ffôn, drwy e-bost neu’n wyneb i wyneb.

Harmless
Yn darparu ystod o wasanaethau am hunan-niweidio ac atal hunanladdiad gan gynnwys cefnogaeth, gwybodaeth, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth i bobl sy’n hunan-niweidio. Hefyd i’w ffrindiau a theuluoedd a phobl broffesiynol a’r rhai mewn perygl o hunanladdiad.

Hundred Families
Yn cynnig cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor ymarferol i deuluoedd sydd mewn profedigaeth oherwydd pobl â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys gwybodaeth am ymchwiliadau’r gwasanaeth iechyd.

INQUEST
Yn darparu cyngor a chyngor annibynnol i deuluoedd mewn profedigaeth ar ymchwiliadau, cwestau a phrosesau cyfreithiol eraill yn dilyn marwolaeth yn y ddalfa ac yn y carchar. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau mewn sefyllfaoedd iechyd meddwl. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar e gwefan gan gynnwys dolen i ‘INQUEST Handbook: A Guide For Bereaved Families, Friends and Advisors’

Mencap Direct 
Yn darparu cyngor diduedd i bobl ac anabledd dysgu.

Llinell Wybodaeth Mind

Yn darparu gwybodaeth ar ofal iechyd meddwl, yn arwain pobl at wasanaethau eirioli lleol, ac yn cynnig cyngor ar gyfraith iechyd meddwl.

Trais yn y Cartref Cenedlaethol
Llinell Gymorth Rhadffôn 24 awr
0808 2000 247

0300 123 3393
Llinell Gyngor y Gyfraith Mind 0300 466 6463


Mae Rhwydwaith Cenedlaethol Defnyddwyr Goroeswyr
yn datblygu rhwydwaith o ddefnyddwyr a goroeswyr er mwyn cryfhau lleisiau defnyddwyr ac ymgyrchu dros welliannau. Mae ganddo hefyd dudalen o ddolenni defnyddiol i grwpiau defnyddwyr a sefydliadau sy’n cynnig cwnsela a chefnogaeth.

Cymdeithas y Cleifion
Yn darparu cyngor, cefnogaeth ac arweiniad i aelodau o’r teulu gyda llinell gymorth genedlaethol sy’n cynnig gwybodaeth arbenigol, cyngor a chyfeirio. Nid yw hyn yn cynnwys cyngor meddygol na chyfreithiol. Gall hefyd eich helpu i wneud cwyn i’r Comisiwn Ansawdd Gofal.

Respond
Yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd a chefnogwyr i leihau effaith trawma a difrïo, trwy seicotherapi, eiriolaeth ac ymgyrchu.

Gwasanaeth Cyngor a Gwybodaeth Rethink
Mae’r Gwasanaeth Cyngor a Gwybodaeth Rethink yn cynnig help ymarferol ar faterion fel y Ddeddf Iechyd Meddwl, gofal cymunedol, budd-daliadau lles, dyled, cyfiawnder troseddol a hawliau gofalwyr. Maen nhw hefyd yn cynnig cymorth cyffredinol ar fyw gyda salwch meddwl, meddyginiaeth, gofal a thriniaeth.
Mae’r llinell yn agored o 09:30-16:00
Dydd Llun i ddydd Gwener.

Y Samariaid
0845 790 9090
Yn darparu gwasanaethau cefnogi cyfrinachol 24 awr.

Sands
Yn cefnogi rhai sydd wedi’u heffeithio gan farwolaeth babi cyn, yn ystod neu ychydig ar ôl genedigaeth, yn darparu llinell gymorth gefnogol ar gyfer profedigaeth, rhwydwaith o grwpiau cymorth, fforwm ar-lein a bwrdd negeseuau.

Sane Line
Yn cynnig cefnogaeth emosiynol iechyd meddwl arbenigol 4.30-10.30pm bob dydd.
Gallwch hefyd anfon e-bost drwy ymweld â’u gwefan.
Tel: 0300 304 7000

Partneriaeth Cefnogi ar ôl Hunanladdiad
Yn darparu adnoddau defnyddio ar gyfer rhai mewn profedigaeth wedi hunanladdiad ac yn cyfeirio at grwpiau cymorth a sefydliadau lleol.

Cymorth i ddioddefwyr
Cymorth annibynnol a chyngor ymarferol a ddarparir gan Gymorth i ddefnyddwyr.