Rydym ni yma i gefnogi unrhyw glaf, defnyddiwr gwasanaethau, aelod o’r teulu neu aelod o’r cyhoedd sydd wedi codi pryderon am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio ar ein cofrestr yr ydym ni wedi penderfynu eu harchwilio.

Gwasanaeth cefnogaeth cyhoeddus

Gall ein gwasanaeth cefnogaeth cyhoeddus eich helpu chi i ddeall sut mae’r broses ymchwilio yn gweithio. Trwyddo, gall ein swyddogion cefnogaeth cyhoeddus ateb cwestiynau unigol neu ddarparu cyfarfodydd un-i-un a helpu egluro’r gwahanol benderfyniadau a allai gael eu gwneud.

Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n cysylltu â ni

Pan fyddwch chi’n cysylltu â’r gwasanaeth cefnogaeth cyhoeddus (PSS), bydd swyddog cefnogaeth cyhoeddus yn cynnig cyfarfod â chi i egluro beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n ymchwilio i nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio a beth allai fod y canlyniadau posibl. Neu gallwch chi drafod pethau dros y ffôn os yw hynny’n haws.

Mae’r drafodaeth hon yn rhoi’r cyfle i chi ofyn unrhyw beth i ni nad ydych chi’n siŵr ohono, ac mae’n rhoi’r cyfle i ni wneud yn siŵr ein bod yn deall eich pryderon yn llawn, gwneud yn siŵr bod gynnon ni’r holl wybodaeth berthnasol i helpu ni archwilio, a gallwn ni hefyd rhoi manylion sefydliadau eraill a all gynnig cymorth pellach.

Sut mae ein swyddogion cefnogaeth cyhoeddus yn gallu eich helpu chi

  • Byddan nhw’n gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gwybod a deall eich pryderon ac yn egluro’r broses ymchwilio a’r canlyniad posibl
  • Byddan nhw’n helpu chi ddeall rôl yr NMC a beth allwn nhw ei wneud
  • Byddan nhw’n eich hysbysu chi o sefydliadau eraill a allai helpu gyda phryderon na allwn ni helpu gyda nhw
  • Gallan nhw gyfarfod â chi ar ddiwedd yr ymchwiliad neu wrandawiad er mwyn egluro’r penderfyniad.

Sut rydym ni’n egluro canlyniad ein hymchwiliad

Unwaith rydym ni wedi ymchwilio i’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio, gall swyddog cefnogaeth cyhoeddus eich helpu chi ddeall y canlyniad a darparu manylion o sefydliadau eraill a all gynnig cymorth pellach.

Byddan nhw’n cynnig i gyfarfod â chi eto, a fydd un ai ar ddiwedd yr ymchwiliad neu ar ddiwedd y gwrandawiad addasrwydd i ymarfer.

Gallwch ddod â ffrind, aelod o’r teulu neu rywun arall i’ch cefnogi chi yn y cyfarfod.

Gallwch lawr lwytho ein taflen gwasanaeth cefnogaeth cyhoeddus a chanllaw hawdd i’w ddarllen ar gyfarfodydd cefnogaeth cyhoeddus.

Ble mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal?

Gallwch gyfarfod â’n swyddogion cefnogaeth cyhoeddus un ai’n rhithwir neu mewn un o’n swyddfeydd yn Llundain.

Os ydych chi’n teithio i’n swyddfeydd ni, gallwn ni eich ad-dalu am gostau teithio rhesymol i chi a rhywun os hoffech chi ddod â nhw am gefnogaeth.

Eiriolwyr cymorth

Gall ein swyddogion cefnogaeth cyhoeddus atgyfeirio rhai aelodau o’r cyhoedd at eiriolwyr cymorth os ydyn nhw angen cymorth cyfathrebu ychwanegol.

Gall ein heiriolwyr cymorth helpu rhywun â phob agwedd o gyfathrebu, gan wneud yn siŵr bod eu rhyngweithio â ni mor esmwyth â phosibl. Gall hyn gynnwys helpu pobl ddeall ein proses o addasrwydd i ymarfer, i ddeall y penderfyniadau rydym ni’n eu gwneud a hefyd drwy ddarparu gwybodaeth mewn ffordd glir i ni.

Bwriad y gwasanaeth hwn yw helpu pobl ag anghenion penodol lywio drwy ein prosesau addasrwydd i ymarfer a helpu eu darparu nhw i roi unrhyw dystiolaeth berthnasol fel gallwn symud ymlaen â’u hachos.