Yr iaith Gymraeg
Defnyddio ein gwasanaethau yn Gymraeg
Rydym yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg sy’n golygu bod ein gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Cyfathrebu
Gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg, trwy lythyr neu e-bost.
Galwadau ffôn
Nid oes gennym staff sy'n siarad Cymraeg ar hyn o bryd, felly mae galwadau ffôn yn cael eu hateb yn Saesneg yn unig. Os hoffech gyfathrebu yn Gymraeg, gallwch drefnu i ni eich ffonio yn ôl er mwyn i chi allu siarad yn Gymraeg.
Cwynion
Os hoffech wneud cwyn am gydymffurfedd yr NMC â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg, codwch gŵyn yma.
Cyfarfodydd
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd sy’n bwriadu mynychu ein cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru siarad yn Gymraeg (rhowch rybudd ymlaen llaw).
Bydd hysbysiadau o gyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd ag unrhyw agendâu a chofnodion, yn ddwyieithog.
Hunaniaeth gorfforaethol
Mae gennym fersiynau Cymraeg o'n logo, hunaniaeth gorfforaethol a phenawdau llythyrau.
Cyhoeddiadau
Bydd cyhoeddiadau ar gyfer y cyhoedd ar gael yn Gymraeg. Mae safonau a chanllawiau proffesiynol yn cael eu cyfieithu ar gais.
Datganiadau i'r wasg a hysbysebu
Byddwn yn cyhoeddi datganiadau dwyieithog i'r wasg yng Nghymru pan fo hynny'n berthnasol. Darperir cyfieithiadau ar gais. Bydd hysbysebu a chyhoeddusrwydd yng Nghymru yn ddwyieithog, yn ogystal â hysbysebu mewn cylchgronau a phapurau newydd.
Rheoliadau safonau’r Gymraeg
Ers 6 Rhagfyr 2023 rydym o'r farn ein bod wedi cydymffurfio â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Mae'r safonau hyn wedi disodli ein Cynllun Iaith Gymraeg blaenorol.
Ers 6 Rhagfyr 2023, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r safonau a amlinellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ein hysbysiad cydymffurfio.
Ar 6 Mehefin 2026, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg ein hysbysiad cydymffurfio wedi'i ddiweddaru. Mae hyn yn cynnwys eithriad ar gyfer cydymffurfio â Safon 20, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu fersiwn Gymraeg o'r ffurflen gais cofrestru. Nid yw'r safon hon bellach yn berthnasol i ddarparu fersiwn ar-lein, os darperir y ffurflen yn Gymraeg mewn fformat y gellir ei lawrlwytho. Os hoffech wneud cais i ymuno â chofrestr yr NMC gan ddefnyddio'r Gymraeg, gallwch ddod o hyd i fersiwn Gymraeg ein ffurflen gais cofrestru y gellir ei lawrlwytho yma: Cais i gael eich cynnwys ar y Gofrestr.
Mae ein hadroddiadau blynyddol blaenorol o dan y Cynllun Iaith Gymraeg ar gael yma. Bydd ein hadroddiad blynyddol wedi’i ddiweddaru o dan Reoliadau Safonau’r Gymraeg newydd ar gael ar y wefan hon ddim hwyrach na chwe mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.
Rhagor o wybodaeth
Adroddiad monitro'r cynllun iaith Gymraeg
- Rheoliadau Safonau’r Gymraeg Adroddiad Monitro Blynyddol 2024–2025 (English)
- Rheoliadau Safonau’r Gymraeg - Adroddiad Monitro Blynyddol 2023-2024 (English)
- Adroddiad monitro'r cynllun iaith Gymraeg 2022-2023 (English)
- Adroddiad monitro'r cynllun iaith Gymraeg 2021-2022 (English)
- Adroddiad monitro'r cynllun iaith Gymraeg 2020-2021 (English)
- Adroddiad monitro'r cynllun iaith Gymraeg 2019-2020 (English)
- Addrodiad monitro'r cynllun iaith Gymraeg 2018-2019 (English)
- Addrodiad monitro'r cynllun iaith Gymraeg 2017-2018 (English)
We comply with the Welsh Language Standards Regulations which means our services are available in both English and Welsh.
Communications
You can write to us in Welsh, by letter or email.
Telephone calls
We do not currently have Welsh-speaking staff, so phone calls are answered in English only. If you would like to communicate in Welsh, you can arrange for us to call you back so you can speak in Welsh.
Complaints
If you would like to make a complaint about the NMC’s compliance with the Welsh Language Standards Regulations, please raise a complaint here.
Meetings
Members of the public, who intend to attend our public meetings in Wales, are welcome to speak in Welsh (please give us advance notice).
Notices of public meetings in Wales, along with any agendas and minutes, will be bilingual.
Corporate identity
We have Welsh versions of our logo, corporate identity and letterheads.
Publications
Publications for the public will be available in Welsh. Professional standards and guidelines are translated upon request.
Press and advertising
We will issue bilingual press releases in Wales when applicable. Translations will be provided upon request. Advertising and publicity in Wales will be bilingual, as will advertising in magazines and newspapers.
Welsh language standards regulations
Since 6 December 2023 we consider we have been compliant with the Welsh Language Standards Regulations (No.8) 2022. These standards replaced our previous Welsh Language Scheme.
From 6 December 2023, we have been required to comply with the standards set out by the Welsh Language Commissioner in our compliance notice.
On 6 June 2026, the Welsh Language Commissioner issued our updated compliance notice. This includes an exemption for compliance with Standard 20, which requires us to provide a Welsh version of the registration application form. This standard now does not apply to the provision of an online version, if the form is provided in Welsh in a downloadable format. If you wish to apply to join the NMC’s register using Welsh, you can find the downloadable Welsh version of our registration application form here: Cais i gael eich cynnwys ar y Gofrestr
Our previous annual reports under the Welsh Language Scheme are available here. Our updated annual report under the new Welsh Language Standards Regulations will be available on this website no later than six months after the end of the financial year.
More information
Welsh language monitoring reports:
These monitoring reports set out our compliance with the Welsh Language Standards Regulations which have applied since 6 December 2023, and the previous Welsh language scheme.
- Welsh language standards monitoring report 2023-2024 (Cymraeg)
- Welsh language scheme monitoring report 2022-2023 (Cymraeg)
- Welsh language scheme monitoring report 2021-2022 (Cymraeg)
- Welsh language scheme monitoring report 2020-2021 (Cymraeg)
- Welsh language scheme monitoring report 2019-2020 (Cymraeg)
- Welsh language scheme monitoring report 2018-2019 (Cymraeg)
- Welsh language scheme monitoring report 2017-2018 (Cymraeg)
Our activities in Wales
As a four-country regulator, we engage with key health and social care stakeholders and across all four nations of the UK. In Wales, we regularly meet with senior nursing and midwifery professionals, including the Chief Nursing Officer, Deputy CNO for Wales, and Chief Midwifery Officer for Wales. While our work with health and social care stakeholders in Wales is primarily conducted in English, this engagement provides opportunities to better understand the context for professionals and the public in Wales. In particular, we look forward to continuing to work with these stakeholders to better understand the Welsh language context for health and social care, and how the use of the Welsh language can be promoted and facilitated for both professionals and the public in Wales.
Our Employer Link Service continues to engage with senior leadership at health boards across Wales. We deliver learning events to professionals, as well as ‘Welcome to the UK’ sessions for internationally educated nurses and joint sessions with the GMC. We also develop and deliver bespoke sessions designed to support positive workplace and learning cultures. Through the Employer Link Service we continue to contribute to the cross-regulatory Wales Healthcare Summit and have well-established relationships with education providers, representative bodies and other key stakeholders in Wales such as Llais.
Following the Council’s agreement to regulate the role of nursing associate in Wales in March 2024, we continue to work closely with the Welsh Government on the regulation of nursing associates in Wales, subject to the requisite changes to our legislation.
Ein gweithgareddau yng Nghymru
Fel rheoleiddiwr pedair gwlad, rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol allweddol ac ar draws pob un o bedair gwlad y DU. Yng Nghymru, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â nyrsys a bydwragedd proffesiynol uwch, gan gynnwys y Prif Swyddog Nyrsio, Dirprwy Brif Swyddog Nyrsio Cymru, a Phrif Swyddog Bydwreigiaeth Cymru. Er bod ein gwaith gyda rhanddeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael ei gynnal yn Saesneg yn bennaf, mae'r ymgysylltiad hwn yn darparu cyfleoedd i ddeall y cyd-destun yn well i weithwyr proffesiynol a'r cyhoedd yng Nghymru. Yn benodol, edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r rhanddeiliaid hyn i ddeall cyd-destun yr iaith Gymraeg ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn well, a sut y gellir hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg i weithwyr proffesiynol a'r cyhoedd yng Nghymru.
Mae ein Gwasanaeth Cyswllt â Chyflogwyr yn parhau i ymgysylltu ag uwch arweinyddiaeth byrddau iechyd ledled Cymru. Rydym yn cyflwyno digwyddiadau dysgu i weithwyr proffesiynol, yn ogystal â sesiynau 'Croeso i'r DU' ar gyfer nyrsys sydd wedi'u haddysgu'n rhyngwladol a sesiynau ar y cyd â'r GMC. Rydym hefyd yn datblygu ac yn cyflwyno sesiynau pwrpasol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi diwylliannau gweithle a dysgu cadarnhaol. Trwy'r Gwasanaeth Cyswllt a Chyflogwyr rydym yn parhau i gyfrannu at Uwchgynhadledd Gofal Iechyd traws-reoleiddiol Cymru ac mae gennym berthynas sefydledig â darparwyr addysg, cyrff cynrychioliadol a rhanddeiliaid allweddol eraill yng Nghymru fel Llais.
Yn dilyn cytundeb y Cyngor i reoleiddio’r rôl cydymaith nyrsio yng Nghymru ym Mawrth 2024, rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar reoleiddio cymdeithion nyrsio yng Nghymru, yn amodol ar y newidiadau angenrheidiol i'n deddfwriaeth.