Rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost

Rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost a ffyrdd o gysylltu â ni

Cyn i chi gysylltu

Os ydych wedi’ch cofrestru â ni, gallwch ganfod eich holl fanylion cofrestru yn eich cyfrif CNB Ar-lein, gan gynnwys pryd y disgwylir i chi ailddilysu.

Ni allwn ymateb i geisiadau unigol am ddyddiadau ailddilysu trwy e-bost neu ffôn gan y gall hyn gael ei ganfod yn eich cyfrif CNB Ar-lein.

Gallwch ganfod atebion hefyd i lawer o ymholiadau cyffredin yn ein hadran gofrestru a’n canolfan wybodaeth Covid-19.

Cyfeiriadau e-bost

Cofrestru

Er mwyn ein helpu i ymateb i’ch ymholiad, darparwch eich PIN, PRN neu ID Ymgeisydd yn eich e-bost, os oes gennych un.

Peidiwch ag anfon eich ymholiad i fwy nac un blwch post gan y bydd hyn yn achosi oediadau. Byddwn yn ymateb i’ch e-bost cyn gynted ag y gallwn – fel arfer o fewn deng niwrnod gwaith.

Rhifau teleffon

Gallwch gysylltu a ni trwy deleffon 08:00–17:45 Dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).

Ceisiwch osgoi’r adegau prysuraf sydd trwy’r dydd, Dydd Llun a dydd Mawrth i ddydd Gwener rhwng 10:00 a 12:00.

Os ydych yn ymgeisydd rhyngwladol i’r gofrestr a’ch bod wedi cyflwyno’ch holl ddogfennau i’w hasesu, neu wedi ymateb i gais am wybodaeth, arhoswch am 35 niwrnod cyn cysylltu â ni. Yn anffodus, nid yw’r ganolfan gyswllt yn gallu darparu unrhyw wybodaeth na diweddariad ychwanegol hyd bod 35 niwrnod wedi mynd heibio.

  • Ymholiadau cyffredinol ac addasrwydd i ymarfer: 020 7637 7181
  • Ymholiadau cofrestru: 020 7333 9333
  • Ymholiadau rhyngwladol: 020 7333 6600

I glywed eich opsiynau yn y Gymraeg, galwch 0203 307 6803

Sylwch y bydd yr alwad gyntaf hon yn cael ei hateb yn y Saesneg, ond bydd opsiwn i barhau â'r alwad ffôn yn y Gymraeg yn cael ei drefnu trwy alwad yn ôl o fewn tri diwrnod gwaith.

Ffyrdd eraill o gysylltu â ni

Trafod eich cofrestriad â thrydydd parti

Os hoffech i drydydd parti (megis perthynas neu asiantaeth/cwmni nyrsio) gysylltu â chi am eich cofrestriad ar eich rhan, mae’n rhaid i ni gael cadarnhad ysgrifenedig oddi wrthych.

Cyn gynted ag y derbyniwn y ffurflen wedi’i chwblhau, byddwn yn diweddaru eich ffeil. Gall gymryd hyd at bum niwrnod gwaith i hyn ymddangos ar eich ffeil.

Ni fyddwn yn gallu trafod unrhyw fanylion â’r trydydd parti hyd bod y broses hon wedi’i chwblhau.

Mae cyflogwyr yn gallu cyrchu gwybodaeth am eich dyddiad cofrestru, y rhan o’r gofrestr rydych chi arni ac a ydych yn weithredol ar hyn o bryd ar y gofrestr gan ddefnyddio’r gwasanaeth cadarnhau cyflogwyr.

Os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnynt, yna bydd angen i chi geisio’r caniatâd hwn ar eu cyfer.

Parch at ein staff

Rydym yn croesawu eich bod yn lleisio pryderon neu gwynion am ein gwaith. Ac rydym am eich cynorthwyo i wneud hyn. Fodd bynnag ni fyddwn yn goddef ymddygiad afresymol nac annerbyniol tuag at ein staff.

Gofynnwn i chi fod yn gwrtais a pharchus wrth gysylltu â ni.

Os ydym yn ystyried bod eich ymddygiad yn annerbyniol, byddwn yn trafod hyn â chi ac yn gofyn i chi roi’r gorau iddi. Os yw’ch ymddygiad yn parhau gallwn benderfynu gweithredu i reoli neu gyfyngu ar eich cyswllt â’r CNB NMC.

Gallwch ddarlen mwy am y broses hon yn ein Polisi ymddygiad afresymol neu annerbyniol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn cysylltwch â’n tîm cwynion.

Revalidation: Find out what you need to do

Update registration using NMC Online

Use Employer Confirmations

Nursing and midwifery registration