Mae aelodau’r Panel Ymchwilio (IC) yn nyrsys, bydwragedd, cymdeithion nyrsio a lleygwyr nad ydynt yn rhan o’r proffesiynau hyn. Bydd yr IC yn cynnal cyfarfodydd i ystyried y materion canlynol:

Pa un ai a oes achos i’w ateb

Os na all yr Archwilwyr Achosion gytuno a oes achos i’w ateb, bydd yn rhaid i banel yr IC benderfynu ynghylch hynny. Wrth lunio eu penderfyniad, bydd yr IC yn defnyddio’r prawf a’r canllawiau a ddefnyddir gan yr archwilwyr achosion.

Bydd yr IC yn cynnal cyfarfod yn breifat i ystyried yr holl wybodaeth ategol, yn cynnwys tystiolaeth gan y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio sydd wedi’i hatgyfeirio. Bydd yn rhaid i’r panel fod yn weddol sicr ynghylch y canlynol:

  • y gellir profi ffeithiau honiad, ac os cânt eu profi
  • y gallai’r ffeithiau hynny arwain at ganfod fod cymhwyster i ymarfer nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn ddiffygiol ar y pryd.

Os bydd y panel yn canfod nad oes achos i’w ateb, bydd yn cau’r achos heb fod angen unrhyw weithredu pellach, gan roi cyngor neu rybudd. Os bydd y panel yn canfod bod achos i’w ateb, bydd yn argymell ymgymeriadau neu’n cyfeirio’r achos at y Pwyllgor Cymhwyster i Ymarfer.

Os bydd yr IC yn penderfynu argymell argymelliadau, bydd yr archwilwyr achosion yn cynnal adolygiad o’r ymgymeriadau yn y modd arferol yn y dyfodol mewn perthynas â’u codi, eu haddasu neu eu diddymu.

Os bydd yr IC yn penderfynu nad oes unrhyw achos i’w ateb neu os bydd yn penderfynu bod achos i’w ateb ac yn argymell ymgymeriadau, gall unrhyw barti sydd â buddiant ofyn am i’r penderfyniad hwn gael ei adolygu gan Gofrestrydd yr NMC. Rydym wedi llunio canllawiau sy’n disgrifio’r weithdrefn y bydd y Cofrestrydd yn ei dilyn wrth adolygu penderfyniadau sy'n nodi nad oes achos i'w ateb.