Os byddwn wedi cael atgyfeiriad ynghylch cymhwyster i ymarfer nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio a byddwn wedi ymchwilio i’r achos, bydd ein harchwilwyr achosion yn penderfynu a fydd ‘achos i’w ateb’.

Bydd archwilwyr achosion yn gweithio fel pâr i benderfynu a oes achos i’w ateb. Bydd un o’r pâr o archwilwyr achosion yn nyrs, yn fydwraig neu’n gydymaith nyrsio cofrestredig bob amser, a bydd yr unigolyn arall yn archwiliwr lleyg (rhywun sydd ddim yn nyrs, yn fydwraig neu’n gydymaith nyrsio cofrestredig).

Os bydd archwilwyr achos yn canfod nad oes achos i’w ateb, efallai byddant yn penderfynu nad oes angen unrhyw weithredu pellach, cau’r achos gan roi cyngor, neu roi rhybudd.

Os bydd archwilwyr achosion yn canfod bod achos i’w ateb, gallant argymell ymgymeriadau neu gyfeirio’r mater at y Pwyllgor Cymhwyster i Ymarfer (FTPC) i’w ystyried ganddynt. Wrth lunio eu penderfyniad, bydd yr archwilwyr achosion yn defnyddio ein canllawiau ynghylch Achosion i'w Hateb.

Wrth benderfynu a oes achos i’w ateb, bydd archwilwyr achosion yn ystyried y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad. Yn aml iawn, gall hyn gynnwys sylwadau neu dystiolaeth a gafwyd gan y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio sydd wedi’i chyfeirio a thystiolaeth gan bartïon eraill, er enghraifft, eu cyflogwr presennol.

Bydd yn rhaid i archwilwyr achosion ystyried a ellir profi ffeithiau’r pryder(on) rheoleiddiol (yr agweddau ar ymarfer neu ymddygiad nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio y mae angen i’r corff reoleiddion ymdrin â hwy) a pha un ai a oes posibilrwydd go iawn y byddai’r pwyllgor yn canfod fod cymhwyster i ymarfer y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio yn ddiffygiol ar y pryd. I’w galluogi i lunio penderfyniad, gall yr archwilwyr achosion argymell hefyd y dylai’r Cofrestrydd Cynorthwyol gynnal rhagor o ymchwiliadau.

Gall yr archwilwyr achosion benderfynu:

  • nad oes unrhyw ateb i’w achos a chau’r achos heb ragor o weithredu
  • bod achos i’w ateb a chau’r achos gan roi cyngor i’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio i’w hatgoffa am eu cyfrifoldebau
  • nad oes achos i’w ateb a rhoi rhybudd, a gaiff ei gyhoeddi am gyfnod o 12 mis
  • bod achos i’w ateb ac argymell ymgymeriadau, a fydd yn cynnwys mesurau cyfyngol ac ailsefydlu, gan bennu llwybr eglur i ddychwelyd i ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol. Bydd yr ymgymeriadau hyn yn cael eu cyhoeddi cyhyd ag y cânt eu gweithredu
  • bod achos i’w ateb a chyfeirio’r mater at y Pwyllgor Cymhwyster i Ymarfer

Os yn briodol, gall archwilwyr achosion ofyn am gael cynnal asesiad o risgiau mewn perthynas â’r achos. Os byddant yn nodi risgiau penodol (megis risg y caiff y cyhoedd niwed), gall archwilwyr achosion ofyn am i’r achos gael ei ystyried ar gyfer gwrandawiad cais am orchymyn interim.

Bydd yn rhaid i’r ddau archwilydd achosion gytuno bod achos i’w ateb. Os na fyddant yn cytuno, caiff yr achos ei gyfeirio at un o baneli’r Pwyllgor Ymchwilio (IC) i’w ystyried ganddynt.

Ni fydd archwilwyr achosion yn ystyried achosion ynghylch pa un ai a allai cofnod nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio ar ein cofrestr fod yn dwyllodrus neu’n anghywir. Caiff yr honiadau hyn eu hystyried gan y Pwyllgor Ymchwilio.

Os bydd archwilwyr achosion yn penderfynu nad oes unrhyw achos i’w ateb neu os byddant yn penderfynu bod achos i’w ateb ac yn argymell ymgymeriadau, gall unrhyw barti sydd â buddiant ofyn am i’r penderfyniad hwn gael ei adolygu gan y Cofrestrydd. Rydym wedi llunio canllawiau sy’n disgrifio’r weithdrefn y bydd y Cofrestrydd yn ei dilyn wrth adolygu penderfyniadau sy'n nodi nad oes achos i'w ateb.