Mae aelodau’r Pwyllgor Cymhwyster i Ymarfer yn nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio cofrestredig ac yn lleygwyr. Bydd y Pwyllgor yn ystyried achosion lle honnir bod cymhwyster i ymarfer nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn ddiffygiol oherwydd:

  • camymddwyn
  • diffyg gallu
  • collfarn neu rybudd yn ymwneud â thramgwydd troseddol
  • diffyg gwybodaeth ofynnol o’r iaith Saesneg
  • iechyd corfforol neu feddyliol
  • canfyddiad gan gorff rheoleiddio neu drwyddedu arall ym meysydd iechyd neu ofal cymdeithasol bod cymhwyster i ymarfer y gweithiwr proffesiynol yn ddiffygiol.

Fel arfer, bydd gwrandawiadau cymhwyster i ymarfer yn cael eu cynnal yn gyhoeddus i adlewyrchu’r ffaith ein bod yn atebol i’r cyhoedd. Gall y panel gytuno i gynnal rhannau o’r achos neu’r achos cyfan yn breifat, i warchod anhysbysrwydd i ddioddefydd honedig, neu os bydd tystiolaeth feddygol gyfrinachol yn cael ei rhannu. Os honnir bod cymhwyster i ymarfer nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn ddiffygiol yn sgil ei hiechyd, cynhelir y gwrandawiad yn breifat oherwydd natur gyfrinachol yr achosion hyn.

Bydd paneli yn penderfynu a fydd cymhwyster i ymarfer nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn ddiffygiol ar y pryd. Wrth lunio’r penderfyniad hwn, bydd paneli yn ystyried y safonau y disgwylir i nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio sydd fel arfer yn ymarfer ar y lefel honno eu cyflawni – nid safonau’r lefel uchaf bosibl o ymarfer. Bydd paneli hefyd yn ystyried y safonau a’r canllawiau a bennir gennym ni.

Hyd yn oes os bydd tordyletswydd wedi digwydd o ran un o’r safonau a nodir yn y Cod neu os methwyd â chadw at ganllawiau yn y gorffennol, nid yw hynny’n golygu bod cymhwyster i ymarfer bydwraig, nyrs neu gydymaith nyrsio yn ddiffygiol ar y pryd. Lle’r panel yw penderfynu hynny, ar ôl ystyried unrhyw dystiolaeth ynghylch beth sydd wedi digwydd ers i’r tordyletswydd neu'r methiannau ddigwydd.

Sancsiynau

Os bydd y panel yn penderfynu bod cymhwyster i ymarfer nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn ddiffygiol, bydd y panel yn defnyddio ein canllawiau ynghylch sancsiynau i ddewis pa un neu pa rai o’r sancsiynau sydd ar gael sy’n fwyaf priodol. Yn gyntaf, bydd yn rhaid i’r panel ystyried a fyddai’n briodol peidio â gweithredu ymhellach. Os bydd y panel yn penderfynu nad yw’r dewis hwn yn briodol, gall:

  • roi rhybudd sy’n para am gyfnod o flwyddyn i bum mlynedd
  • gorfodi amodau ymarfer am hyd at dair blynedd
  • atal cofrestriad y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio am hyd at flwyddyn, neu
  • ddileu enw’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio o’r gofrestr.

Wrth ystyried achosion yn ymwneud ag iechyd, achosion yn ymwneud â diffyg gallu, neu gymhwyster i ymarfer diffygiol yn sgil gwybodaeth annigonol o’r iaith Saesneg, ni all un o baneli’r Pwyllgor Cymhwyster i Ymarfer lunio penderfyniad i orfodi gorchymyn dileu y tro cyntaf y clywir yr achos. Ni all y panel weithredu’r sancsiwn hwn oni bydd y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio wedi cael ei hatal yn barhaus neu wedi bod yn destun gorchymyn amodau ymarfer yn y ddwy flynedd flaenorol (nid yw hyn yn cynnwys gorchmynion interim).