Sut gallwch chi arsylwi gwrandawiad

Os ydych yn dymuno arsylwi gwrandawiad wyneb yn wyneb neu rithiol, llenwch ein ffurflen isod a sicrhewch eich bod yn cytuno i dderbyn y rheolau ynghylch arsylwi un o wrandawiadau'r NMC.

Rhowch wybod i ni os ydych yn dymuno arsylwi gwrandawiad

Cynghorion Doeth

  • Gallwch neilltuo lle i fynychu gwrandawiad hyd at fis ymlaen llaw. Bydd y cyfnod neilltuo lle yn dod i ben ddau ddiwrnod gwaith cyn diwrnod cynnal y gwrandawiad.
  • Anaml iawn y byddwn ni’n gorfod gwrthod cais i neilltuo lle, ond byddwn yn cyfyngu ar nifer yr arsyllwyr a byddwn yn derbyn ceisiadau ar sail ‘cyntaf i’r felin’, oni byddwch chi’n gysylltiedig â’r achos.
  • Bydd y rhan fwyaf o wrandawiadau sylweddol yn cychwyn ar ddydd Mawrth neu ddydd Iau - byddwch yn fwy tebygol o glywed tystiolaeth gan dystion os byddwch yn mynychu ar y diwrnodau hyn.

Gallwch weld gwrandawiad wyneb yn wyneb yn bersonol yn un o’n canolfannau cynnal gwrandawiadau. Mae mynediad heb risiau ar gael yn yr holl ganolfannau ble cynhelir ein gwrandawiadau.

Os oes gennych chi addasiadau rhesymol sy’n golygu na allwch chi fynychu gwrandawiad wyneb yn wyneb yn bersonol, rhowch wybod i ni.

Yn achos gwrandawiadau rhithiol, byddwn yn caniatáu mynediad sain yn unig i nifer cyfyngedig o arsyllwyr. Os yw mynediad sain yn unig yn anodd i chi, neu os oes arnoch chi angen unrhyw addasiadau rhesymol eraill er mwyn arsylwi gwrandawiad rhithiol, rhowch wybod i ni.

Os byddwch yn arsylwi gwrandawiad ar 1 Ebrill 2023 ac wedi hynny, gallwn ganiatáu mynediad gweledol llawn.

Neilltuo lleoedd ar gyfer grwpiau

Os dymunwch arsylwi gwrandwiad wyneb yn wyneb neu rithiol fel rhan o grŵp, cysylltwch yn uniongyrchol â ni.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch arsylwi gwrandawiad, anfonwch e-bost atom ni.

Gallwch weld amserlen o wrandawiadau sydd ar y gweill.

Beth i’w ddisgwyl

Yn ystod y gwrandawiad

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch beth i’w ddisgwyl yn ystod cyfarfod wyneb yn wyneb neu rithiol, cyfeiriwch at y llawlyfrau canlynol:

Llawlyfr arsyllwyr gwrandawiadau wyneb yn wyneb

Llawlyfr arsyllwyr gwrandawiadau rhithiol

Amseroedd gwrandawiadau

Bydd ein gwrandawiadau fel arfer yn cychwyn am 09:30 (09:00 yn achos gwrandawiadau gorchmynion interim) ac yn gorffen erbyn oddeutu 17:30, ond gallant gychwyn a gorffen yn hwyrach na hynny. Os byddwch yn mynychu gwrandawiad wyneb yn wyneb neu rithiol, arhoswch nes bydd cydlynydd y gwrandawiad yn gofyn i chi ymuno â’r gwrandawiad.

Gwrandawiadau cyhoeddus neu breifat

Fel arfer, bydd ein gwrandawiadau yn rhai cyhoeddus. Fodd bynnag, gall panel wrando ar ran o wrandawiad neu wrandawiad cyfan yn breifat os bydd yn sicr fod hynny’n rhesymol ac yn gymesur, a bod budd unrhyw barti (yn cynnwys unrhyw drydydd parti) yn cyfiawnhau hynny, neu os bydd hynny er budd y cyhoedd.

Bydd achosion cymhwyster i ymarfer sy’n ymdrin ag iechyd y nyrs, y fydwraig neu'r cydymaith nyrsio sydd dan sylw yn cael eu cynnal yn breifat, oherwydd natur gyfrinachol yr achosion hyn.

Bydd hynny’n berthnasol yn achos gwrandawiad rhithiol neu wrandawiad wyneb yn wyneb mewn canolfan cynnal gwrandawiadau.

Cefnogwyr

Mae cyfaill McKenzie yn unigolyn a all gynorthwyo rhywun sy’n ymwneud ag achos cyfreithiol mewn llys barn yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, trwy annog, ysgrifennu nodiadau, a chynnig cyngor yn dawel. Nid oes yn rhaid iddynt fod wedi cael hyfforddiant i fod yn gyfreithiwr na meddu ar gymwysterau proffesiynol ym maes y gyfraith.

Yn wahanol i awdurdodaethau Llysoedd, nid yw’r NMC yn cydnabod Cyfeillion McKenzie yn ffurfio yn ei achosion ffurfiol oherwydd nid ydym yn un o wasanaethau’r Llysoedd, ble tarddodd term a rôl cyfaill McKenzie. Mae gan ein tribiwnlysoedd eu Trefn, eu Rheolau a’u Harferion eu hunain, ac felly, gall arferion yn y Llysoedd ddylanwadu ar ein gwaith, ond nid oes yn rhaid i’n gwaith eu hadlewyrchu’n union.

Fodd bynnag, mae ein hagwedd yn debyg i agwedd y Llysoedd Sifil a Theulu o ran cefnogwyr nad ydynt yn cynrychioli nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio. Mae hyn yn golygu ein cydnabod y bydd nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio sy’n ymwneud â’n gwrandawiadau yn dymuno cael rhywun yno i’w cefnogi na fydd yn eu cynrychioli nac yn eirioli ar eu rhan.

Gall yr unigolyn yma gynnig cefnogaeth foesol ac ysgrifennu nodiadau, ond ni all fod yn gynrychiolydd y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio. Er enghraifft, ni fuasent yn annerch y panel yn uniongyrchol, cyflwyno dadleuon, na holi tystion. Bydd yn rhaid i’r unigolyn hysbysu ymlaen llaw eu bod yn bwriadu bod yn bresennol a chadarnhau ar y cychwyn eu bod yn deall cyfyngiadau eu rôl.

Mae gennym swyddogion cyswllt â thystion a all gynorthwyo nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio a’r sawl sy’n cynnig tystiolaeth yn ystod gwrandawiadau, er enghraifft, trwy gynorthwyo â’r trefniadau sy’n ofynnol i gynnig tystiolaeth, neu fod yn yr ystafell gyda’r tyst tra bydd yn cynnig tystiolaeth.

Ailddechrau gwrandawiadau

Ceir achosion a gafodd eu gohirio ar ôl cychwyn, ac a fydd yn ailgychwyn yn ddiweddarach. Mae croeso i chi fynychu gwrandawiad sy’n ailgychwyn, yn dibynnu ar y cyfyngiadau o ran y capasiti.

Achosion yn ymwneud â nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio

Mae’r weithdrefn i gynnal achosion yn ymwneud â nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio yr un fath fwy neu lai. Y cynnwys sy’n wahanol.

Ein disgwyliadau o ran ymddygiad pawb sy’n ymwneud â gwrandawiad

Gofynnwn i’r holl gyfranogwyr sy’n mynychu gwrandawiad i gadw at ein gwerthoedd, sef bod yn deg, yn garedig, yn gydweithredol ac yn uchelgeisiol. Darllenwch ragor am y ein disgwyliadau o ran pawb sy'n mynychu gwrandawiad.