Rydym ân i holl gyfranogwyr gwrandawiadau gael eu trin yn deg, â pharch ac urddas.

Mae’r dudalen hon yn disgrifio rhai o’r egwyddorion y byddwn yn gofyn i holl gyfranogwyr gwrandawiad gadw atynt bob amser. Maent yn berthnasol i aelodau paneli, aseswyr cyfreithiol, y gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gwrandawiad, pobl sy’n cynnig tystiolaeth, pobl sy’n gweithredu ar ran yr NMC neu ar ran y gweithiwr proffesiynol, staff yr NMC ac arsyllwyr (yn cynnwys y wasg).

Mae’r egwyddorion yn dilyn ein gwerthoedd, sef bod yn deg, yn garedig, yn gydweithredol ac yn uchelgeisiol.

Rydym yn gobeithio y byddant yn helpu pawb sy’n ymwneud â gwrandawiadau i deimlo’n fwy cyfforddus yn ystod y gwrandawiadau hynny, ac yn helpu pobl i ymgysylltu yn effeithiol ac yn effeithlon.

Egwyddorion i bob cyfranogwr

Disgwyliadau cyffredinol

Byddwch yn garedig ac yn barchus at bobl eraill yn ystod y gwrandawiad. Fe wnaiff hyn greu amgylchedd gwell i bawb a helpu i sicrhau bod y gwrandawiad yn cael ei redeg yn esmwyth ac yn brydlon.

Mae gwrandawiadau yn achosion ffurfiol. Dylai cyfranogwyr gwrandawiadau osgoi sylwadau neu sgyrsiau anffurfiol. Dylai’r sawl sy’n arsylwi’r gwrandawiad fod yn dawel ac yn ystyriol wrth ymuno â neu adael gwrandawiad sydd wrthi’n cael ei gynnal.

Mae gan y panel rôl bwysig o ran rheoli’r bobl sy’n ymddangos ger bron y panel. Bydd cadeirydd y panel yn ymyrryd os bydd yn ystyried bob ymddygiad rhywun yn amhriodol. (Gweler ein canllawiau ynghylch Rheoli ymddygiad yn ystod gwrandawiadau).

Caniatáu i bobl siarad

Mae’n bwysig i’r bobl sy’n ymwneud â gwrandawiad allu cyfathrebu mor hwylus ag y bo modd i ganiatáu proses deg.

Os bydd rhywun yn siarad, caniatewch iddynt orffen cyn cyfleu eich dadl neu ofyn cwestiwn. Os bydd angen i chi godi rhywbeth ar frys, os bydd hynny’n bosibl, codwch eich llaw i fynegi hynny i gadeirydd y panel ac arhoswch nes bydd y cadeirydd yn gofyn i chi gyfrannu.

Bod yn gymhwysol

Mae pawb yn wahanol felly cofiwch fod yn sensitif ac yn ystyrlon o ran amgylchiadau unigol pobl. Efallai bydd angen i chi ystyried eich cyfathrebu neu eich dull i sicrhau bod pobl yn cael eu cynnwys yn briodol a’u bod yn gallu cyfranogi’n effeithiol.

Iaith

Ceisiwch ddefnyddio Saesneg eglur a sicrhewch fod eich iaith mor hygyrch ag y bo modd. Gall iaith hynod o dechnegol neu gyfreithiol fod yn anoddach i’w ddeall i bobl sydd yn y gwrandawiad a dylech osgoi hynny os gallwch chi.

Cyfarch pobl

Mae’n syniad da gwirio sut mae rhywun yn dymuno cael eu cyfarch, oherwydd efallai byddant am i bobl gyfeirio atynt mewn ffordd benodol.

Cadw a rheoli amser

Rydym yn gwerthfawrogi’r amser y bydd pobl yn ei fuddsoddi i fynychu gwrandawiad ac rydym yn dymuno defnyddio’r amser hwnnw mor effeithiol ac mor effeithlon ag y bo modd.

Felly, byddwn yn gofyn i bawb sy’n bresennol mewn gwrandawiad i barchu amser y naill a’r all; trwy gyrraedd yn brydlon ar ddechrau’r diwrnod neu pan fydd y gwrandawiad yn ailgychwyn wedi egwyl. Gofynnwn hefyd i fynychwyr gynnig amcangyfrifon realistig i bobl sy’n ymwneud â’r gwrandawiad, fel y gallant reoli eu hamser yn unol â hynny.

Egwyddorion i bobl sy’n gofyn cwestiynau i rywun sy’n cynnig tystiolaeth

Yn ystod gwrandawiadau, bydd y panel yn aml yn clywed tystiolaeth fyw. Os byddwch chi’n gofyn cwestiynau i rywun sy’n cynnig tystiolaeth, gofynnwch eich cwestiynau yn barchus ac yn deg.

Os bydd cadeirydd y panel yn ystyried bod dull gofyn cwestiynau rhywun yn atal proses deg a charedig, bydd yn ymyrryd. Gall hyn gynnwys:

  • gofyn cwestiynau mewn modd ymosodol, gelyniaethus neu amhriodol
  • ailadrodd cwestiwn sydd eisoes wedi cael ei ateb
  • gofyn cwestiynau amherthnasol.

Os byddwch chi’n credu nad yw’r egwyddorion hyn yn cael eu cyflawni

Os byddwch yn credu nad yw rhywun mewn gwrandawiad yn cadw at yr egwyddorion hyn, bydd yn well mynegi hynny oherwydd efallai y gellir datrys y mater.

Os byddwch yn dal yn anfodlon ag ymddygiad cyfranogwr, gallwch gynnig adborth neu gyflwyno cwyn ar-lein yn ein tudalen adborth a chwynion.

Related pages