23 Portland Place

Cyfeiriad post, manylion cyswllt,cyfarwyddiadau ac oriau agor ar gyfer 23 Portland Place

Edrychwch ar fap Mwy

Cyfeiriad

Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
23 Portland Place
Llundain
W1B 1PZ

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener: 08:30-17:00

Am ymholiadau gweler ein Tudalen Cysylltu â Ni.

Teleffon: 020 7333 9333

Mynediad

Mae mynediad heb risiau i’r adeilad o lefel y stryd. Mae modd mynd i bob llawr yn y lifft.

Cyfarwyddiadau

Lawrlwythwch fersiwn gyfeillgar i brint o gyfarwyddiadau ar gyfer 23 Portland Place 

Ar y tiwb

Oxford Circus (Llinellau Bakerloo, Central a Victoria)

Saith munud o gerdded
Ewch allan ar ochr ogleddol Oxford Street a cherddwch i’r gogledd i fyny Regent Street heibio i’r eglwys a BBC Broadcasting House. Mae 23 Portland Place ar eich ochr chwith ar y gyffordd â New Cavendish Street.

Great Portland Street (Llinellau Circle, Hammersmith a Metropolitan)

Wyth munud o gerdded
Cerddwch i lawr Great Portland Street i ffwrdd oddi wrth Marylebone Road. Trowch i’r dde yn y gyffordd â New Cavendish Street. Croeswch y ffordd pan gyrhaeddwch y goleuadau traffig ar Portland Place. Mae 23 Portland Place ar y gornel â New Cavendish Street.

Regent’s Park (Llinell Bakerloo)

Wyth munud o gerdded
Trowch i’r chwith i lawr Marylebone Road a chymerwch y tro cyntaf ar y chwith yn Park Crescent. Yna trowch i’r dde yn Portland Place. Mae 23 Portland Place ar eich ochr dde ar y gyffordd â New Cavendish Street.

Ar y trên

Euston

19 munud o gerdded
Gadewch yr orsaf, croeswch Euston Road a cherddwch i’r dde. Trowch i’r chwith i lawr Park Crescent ac yna i’r chwith i lawr Portland Place. Croeswch y ffordd ac mae 23 Portland Place ar eich ochr dde yn y gyffordd â New Cavendish Street.

Asesiad risg Covid-19

Mae’r asesiad hwn yn amlinellu’r trefniadau diogelwch y byddwn yn eu defnyddio i gadw’n cydweithwyr a’n hymwelwyr yn ddiogel ac atal lledaeniad coronafeirws.

Asesiad risg Covid-19 23 Portland Place