Mae'r NMC yn chwilio am ddau aelod newydd o'r Cyngor
Published on 22 November 2023
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddau berson dawnus o safon i ymuno â’n Cyngor – y corff llywodraethu sy’n gosod ein cyfeiriad strategol.
Mae’r Cyngor yn cynnwys chwe gweithiwr proffesiynol ar ein cofrestr a chwe aelod lleyg, pob un wedi’u penodi gan y Cyfrin Gyngor – gan gynnwys o leiaf un aelod o bob un o wledydd Gogledd Iwerddon, yr Alban, Cymru a Lloegr.
Rydym yn chwilio am weithiwr nyrsio neu fydwreigiaeth proffesiynol cofrestredig sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, ynghyd â pherson lleyg â chymwysterau ariannol a leolir yn y DU a all gadeirio ein Pwyllgor Archwilio. Fel aelodau’r Cyngor, byddant yn ein helpu i sicrhau bod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael y gofal diogel, caredig ac effeithiol y mae ganddynt hawl i’w dderbyn.
Ein nod yw i'r Cyngor adlewyrchu cymdeithas yn ei holl amrywiaeth a bod yn ymwybodol o anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a'r gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio. Felly, rydym yn awyddus i glywed gan bobl sydd â’r sgiliau cywir o gefndiroedd, profiad a chefndir amrywiol.
Dywedodd Syr David Warren, Cadeirydd y Cyngor:
“Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i’n Cyngor, a bydd ein haelodau newydd yn dod â phrofiad strategol a mewnwelediad i waith yr NMC wrth iddo barhau i wneud gwelliannau mewn addasrwydd i ymarfer, gan wneud penderfyniadau cyflym a diogel sy’n cadw pobl yn ddiogel. Bydd eu safbwyntiau a’u harbenigedd yn helpu’r Cyngor i oruchwylio’r gwaith parhaus i fynd i’r afael â’r llwyth achosion addasrwydd i ymarfer, gan alluogi’r NMC i wneud penderfyniadau sy’n cadw pobl yn ddiogel; a bydd hefyd yn sicrhau bod yr NMC yn creu diwylliant cefnogol a chynhwysol ar gyfer ein pobl.
“Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sy’n ymgorffori ein gwerthoedd – i fod yn deg, yn garedig, yn gydweithredol, ac yn uchelgeisiol – ynghyd â’n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant – sy’n sail i bopeth a wnawn.”
Mae ceisiadau ar gyfer y rolau nawr ar agor tan hanner dydd ar ddydd Llun 8 Ionawr 2024. I ddysgu rhagor amdanyn nhw a sut i wneud cais, ewch i
Other recent news…
Black History Month: Paulette Lewis on leadership, heritage and supporting the next generation
Published on 23 October 2026
As part of Black History Month 2026, we're sharing the stories and experiences of Black nursing and midwifery professionals, exploring this year's theme, Honour
NMC responds to CQC State of Care report 2026
Published on 23 October 2026
The Care Quality Commission (CQC) has published its annual assessment of health and social care in England.
NMC responds to new Skills for Care report into adult social care
Published on 14 October 2026
Skills for Care have today (14 October) published their annual 'State of the adult social care sector and workforce in England' report.