Byddwn yn ymateb i chi o fewn 5 diwrnod gwaith.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cael ei hystyried gan ein tîm sgrinio, a fydd yn penderfynu a allwn ni’ch helpu gyda'ch pryder ai peidio. Efallai y bydd angen i ni wneud rhai ymholiadau cyn y gallwn wneud penderfyniad.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y broses hon, gweler ein canllawiau, ein tudalennau gwe cymorth i gleifion, teuluoedd a’r cyhoedd, neu cysylltwch â’n llinell gymorth atgyfeirio ar 020 3307 6802

Addasiadau Rhesymol

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses addasrwydd i ymarfer yn hygyrch i bawb sy’n gysylltiedig. Os oes angen cymorth arnoch, er enghraifft gwybodaeth i’w darparu mewn iaith neu fformat arall, neu os oes angen addasiad arnoch os oes gennych anabledd, anaf hirdymor neu gyflwr iechyd, cysylltwch â ni a byddwn yn trafod gyda chi sut y gallwn ni’ch cynorthwyo.

Eich adborth

Rydym wedi ymrwymo i wella ein gwasanaeth cwsmeriaid. Byddem yn ddiolchgar pe gallech gyflwyno adborth ar y broses hon.