Mae’r Gwasanaeth Cefnogaeth Cyhoeddus yn sicrhau bod cleifion, gofalwyr a’r cyhoedd yn cael eu cefnogi trwy gydol y broses o addasrwydd i ymarfer.

Cyfarfodydd cefnogaeth cyhoeddus

Os ydych chi wedi codi pryderon am rywun ar ein cofrestr ac rydym ni’n penderfynu ymchwilio, mae ein Swyddogion Cefnogaeth Cyhoeddus yno i’ch cefnogi chi.

Gallan nhw eich cyfarfod chi, egluro beth sy’n digwydd nesaf, gwrando arnoch chi, gwneud yn siŵr bod gynnon ni’r holl wybodaeth rydym ni ei angen ac egluro unrhyw benderfyniadau rydym ni’n eu gwneud.

Canfod mwy am y Gwasanaeth Cefnogaeth Cyhoeddus (PSS)

Cymorth i Dystion

Os ydych chi’n cael eich gofyn i fynychu gwrandawiad fel tyst, gall ein tîm cyswllt tystion eich helpu. Gallan nhw eich cefnogi cyn, yn ystod ac ar ôl y gwrandawiad.

Canfod mwy am y tîm cyswllt tystion a bod yn dyst

Cymorth Annibynnol

Os ydych chi wedi codi pryderon gyda ni, gallwch gael cymorth annibynnol a ddarperir gan Cymorth i Ddioddefwyr.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Ffôn: 0300 303 3731

Addasiadau rhesymol a gwybodaeth hygyrch

Os ydych chi angen math penodol o gymorth neu addasiad, rydym ni’n fwy na bodlon i helpu.

Gadewch i ni wybod cyn gynted â phosibl fel y galwn ni wneud yn siŵr bod gynnon ni’r trefniadau cywir mewn lle.

Rydym ni hefyd wedi rhywfaint o wybodaeth hygyrch ar addasrwydd i ymarfer ar gyfer pobl sy’n canfod darllen yn anodd. Mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel canllawiau hawdd i’w darllen.