NMC logo CymraegRydym yn bodoli i ddiogelu'r cyhoedd a phennu'r safonau ar gyfer addysg, hyfforddiant, ymddygiad a pherfformiad er mwyn i nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio allu darparu gofal iechyd o safon uchel drwy gydol eu gyrfaoedd. Rydym yn sicrhau bod gan nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio y sgiliau a'r wybodaeth ddiweddaraf a'u bod yn cynnal ein safonau proffesiynol. Mae gennym brosesau clir a thryloyw i ymchwilio i nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio nad ydynt yn cyrraedd ein safonau, ac rydym yn cadw cofrestr o nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio y caniateir iddynt ymarfer yn y DU.

Beth i’w ddisgwyl gan nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio

Mae’n bwysig bod pawb yn teimlo’n hyderus ynghylch y gofal y gallant ei ddisgwyl gan y gweithwyr proffesiynol sydd ar ein cofrestr.

Mae ein safonau ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio yn eu cynorthwyo i ddarparu gofal caredig, diogel ac effeithiol.

Rydym wedi gwneud dau animeiddiad byr i’ch helpu i ddeall beth allwch chi ei ddisgwyl gan eich nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio:

Addasrwydd i ymarfer

Beth yw ystyr addasrwydd i ymarfer

Mae bod yn addas i ymarfer yn golygu bod gan nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio y sgiliau, y wybodaeth, yr iechyd da a'r cymeriad da i wneud eu gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol.

Rhaid i bob nyrs, bydwraig a chydymaith nyrsio cymwysedig ddilyn Y Cod: Safonau ymarfer proffesiynol ac ymddygiad ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio. Byddwn yn ymchwilio os honnir nad yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn cyrraedd ein safonau o ran sgiliau, addysg ac ymddygiad. Lle bo angen, byddwn yn gweithredu drwy eu tynnu oddi ar y gofrestr yn barhaol neu am gyfnod penodol o amser.

Mae'n ofynnol i ni lunio adroddiad addasrwydd i ymarfer blynyddol a'i gyflwyno i'r Senedd drwy'r Cyfrin Gyngor, ynghyd â'n hadroddiad blynyddol a chyfrifon.

Darllenwch ein hadroddiad blynyddol ar addasrwydd i ymarfer:

Adroddiad Blynyddol ar Addasrwydd i Ymarfer 2022- 2023

Crynodeb o’n gwaith 2022- 2023

Pryderon am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio

Os oes gennych bryderon am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio nad ydych yn credu eu bod yn addas i ymarfer, cysylltwch â ni.

Rydym yn ymchwilio i honiadau amrywiol yn cynnwys:

  • camymddwyn
  • diffyg cymhwysedd
  • ymddygiad troseddol
  • salwch difrifol

Ein rôl ni fel rheoleiddiwr yw sicrhau bod addasrwydd i ymarfer nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio yn cyrraedd ein safonau. Nid yw'n ddyletswydd ar gleifion neu'r cyhoedd i benderfynu a yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn addas i ymarfer. Fodd bynnag, gallant godi eu pryderon os byddant yn teimlo bod diogelwch cleifion neu'r cyhoedd mewn perygl.

Nid ydym yn gyfrifol am reoleiddio ysbytai neu leoliadau gofal iechyd eraill. Nid ydym yn rheoleiddio cynorthwywyr gofal iechyd chwaith.

Darllenwch fwy am yr hyn sy’n digwydd yn ystod y broses o godi pryder a sut gallwn ni helpu

Ffurflenni atgyfeirio

Os ydych yn pryderu p'un a yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn addas i ymarfer, gallwch wneud atgyfeiriad drwy ddefnyddio un o'n ffurflenni atgyfeirio.

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd, defnyddiwch ffurflen atgyfeirio'r cyhoedd (ar gael yn Gymraeg).

Os mai chi yw cyflogwr y nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yr hoffech wneud atgyfeiriad amdanynt, defnyddiwch y ffurflen cyflogwr.

Dylai sefydliadau neu unigolion proffesiynol sydd am wneud atgyfeiriad i ni yn rhinwedd eu rôl broffesiynol gwblhau’r ffurflen atgyfeirio trydydd partïon, lle nad oes perthynas cyflogaeth uniongyrchol gyda'r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio. Gall hyn gynnwys cyrff rheoleiddio eraill, meddyg sy'n atgyfeirio nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio ar ran ei sefydliad neu swyddog yr heddlu yn gwneud atgyfeiriad ar ran yr heddlu.

Os hoffech wneud atgyfeiriad amdanoch eich hun, defnyddiwch y ffurflen hunanatgyfeirio.

Ein hymrwymiadau cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth y nyrsys, y bydwragedd a’r cymdeithion nyrsio sydd ar ein cofrestr, ein staff a’r gymuned ehangach rydym yn ei gwasanaethu. Hoffem adlewyrchu'r amrywiaeth hon ym mhopeth a wnawn.

Fel corff cyhoeddus, mae'n rhaid i ni fodloni gofynion dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac un o'r gofynion hyn yw cyhoeddi ein hamcanion cydraddoldeb. Drwy ein hamcanion cydraddoldeb, ein nod yw dangos sut rydym yn darparu cyfle cyfartal ym mhob maes o'n gwaith.

Mae ein cynllun gweithredu amcanion cydraddoldeb yn egluro'r hyn rydym yn ei wneud i hyrwyddo pob grŵp cydraddoldeb, gan gynnwys oedran, anabledd, rhyw, pennu rhywedd, priodas/partneriaeth sifil, beichiogrwydd, hil, crefydd neu gred, a chyfeiriadedd rhywiol.

Darllenwch ein hadroddiadau blynyddol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth

Ein strategaeth

Mae ein strategaeth gorfforaethol yn amlinellu'r ffordd y byddwn yn datblygu ein gwaith er mwyn diogelu cleifion a'r cyhoedd yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae'n gosod systemau rheoleiddio dynamig wrth wraidd yr hyn a wnawn ac yn nodi ble, yn ein barn ni, y dylem dargedu ein hymdrechion a'n hadnoddau er mwyn hyrwyddo safonau gofal ac ymarfer.

Strategaeth 2020–2025

Ein Cynllun Corfforaethol

Ers i ni lansio ein strategaeth ar gyfer 2020–2025, mae’r amgylchedd yr ydym i gyd yn byw ac yn gweithio ynddo wedi newid yn ddramatig. Dros y flwyddyn sydd o’n blaenau, mae’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu heriau aruthrol ar draws pedair gwlad y DU. Rydym yn parhau â’n hymrwymiad i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol nyrsio a bydwreigiaeth i ddarparu gofal diogel, effeithiol a charedig er mwyn gwella iechyd a lles pawb. Mae ein cynllun corfforaethol ar gyfer 2023-2025 yn amlinellu sut rydym yn canolbwyntio unwaith eto ar ein nodau strategol, ac yn parhau â’n hymrwymiad i’n gwerthoedd.

Cynllun corfforaethol 2023-2025

Crynodeb dwy-dudalen o’r Cynllun corfforaethol

Ein fframwaith cyfreithiol

Yn debyg i reoleiddwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, mae gennym gyfres o ddeddfau llywodraethu. Ein prif ddeddfwriaeth yw Gorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 ('y Gorchymyn') a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002. Mae ein deddfwriaeth yn nodi pwy rydym yn eu rheoleiddio, ein rôl a'n swyddogaethau, sut rydym yn mynd i'r afael â'r swyddogaethau hynny a hawliau, rhwymedigaethau a phwerau penodol sydd gennym ni a nyrsys a bydwragedd.

Sefydlodd y Gorchymyn ein sefydliad ac mae'n amlinellu ein prif bwrpas, sef diogelu'r cyhoedd, strwythur y sefydliad a'n swyddogaethau a'n gweithgareddau. Mae'r Gorchymyn hefyd yn amlinellu rhai egwyddorion rhwymol a threfniadau goruchwylio ar ein cyfer. Rydym yn atebol i'r Cyfrin Gyngor, yr Adran Iechyd a'r Awdurdod Safonau Proffesiynol.

Trosolwg

Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol

Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PSA) sy'n goruchwylio ein gwaith. Sefydlwyd y PSA gan Senedd y Deyrnas Unedig er mwyn goruchwylio gwaith pob rheoleiddiwr gofal iechyd proffesiynol yn y DU a gwaith cymdeithasol yn Lloegr.

Mae’r PSA yn edrych ar nifer o agweddau ar ein gwaith. Bob blwyddyn, mae’n adolygu ein perfformiad cyffredinol ac yn adrodd ar hynny i Senedd y Deyrnas Unedig. Caiff ein perfformiad ei asesu yn ôl Safonau Rheoleiddio Da y PSA.

Y Pwyllgor Dethol ar Iechyd

Caiff y Pwyllgor Dethol ar Iechyd ei benodi gan Dŷ'r Cyffredin er mwyn archwilio polisi, gweinyddiaeth a gwariant yr Adran Iechyd a chyrff cysylltiedig. Mae 11 o ASau yn aelodau o'r pwyllgor.

Ers 2011, mae'r pwyllgor wedi cynnal gwrandawiadau atebolrwydd blynyddol â ni. Rydym yn croesawu'r ffordd mae'r pwyllgor yn craffu ar ein gwaith ac rydym yn cymryd ei argymhellion o ddifrif. Yn ogystal â rhoi tystiolaeth ar lafar, rydym yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig ar ein cynnydd mewn ymateb i'w wrandawiadau atebolrwydd yn ogystal ag i ymchwiliadau eraill y pwyllgor.

Y Comisiwn Elusennau

Rydym wedi'n cofrestru fel elusen gofrestredig gyda'r Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr (rhif 1091434) ac yn yr Alban gyda Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban (OSCR) (rhif SC038362).

Ein hamcan elusennol yw diogelu iechyd a lles y cyhoedd. Fel elusen, rhaid i ni sicrhau bod ein gwaith yn dangos budd cyhoeddus ac yn cydymffurfio â gofynion a chanllawiau’r Comisiwn Elusennau a’r OSCR.

Rydym yn cyflwyno ein hadroddiad blynyddol a’n cyfrifon i’r ddau gorff yn ogystal â dogfennau statudol eraill y maen nhw’n gofyn amdanynt.

Adroddiadau blynyddol a chyfrifon

Bob blwyddyn, rydym yn cyflwyno ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon i'r Senedd drwy'r Cyfrin Gyngor. Mae ein hadroddiad blynyddol yn amlinellu ein hamcanion, yn disgrifio'r hyn rydym wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ac yn egluro ein dull o lywodraethu, ein hadnoddau ariannol a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Fel elusen gofrestredig, rydym hefyd yn cyflwyno ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon i'r Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr ac i Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban (OSCR). Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod ein gwaith yn dangos budd i'r cyhoedd ac yn cydymffurfio â gofynion y Comisiwn Elusennau a gofynion a chanllawiau Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban (OSCR).

Darllenwch ein hadroddiad blynyddol

Pobl rydym yn gweithio gyda nhw

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion ledled pedair gwlad y DU er mwyn diogelu'r cyhoedd. Mae'r rhain yn cynnwys rheoleiddwyr eraill, grwpiau cleifion, undebau llafur, cyflogwyr ac addysgwyr, yn ogystal â'r nyrsys, y bydwragedd a’r cymdeithion nyrsio sydd ar ein cofrestr.

Mae gennym nifer o grwpiau cynghori sy'n ein helpu i ddatblygu ein gwaith. Mae'r grwpiau'n cynnwys y Grŵp Cynghori Strategol Proffesiynol sy'n cynnwys uwch nyrsys a bydwragedd a'r Grŵp Cynghori Cleifion a'r Cyhoedd sy'n cynnwys cynrichiolwyr o grwpiau cleifion.

Ymuno â'r gofrestr (ar ôl hyfforddi yn y DU)

Rydym yn cadw cofrestr o fwy nag 808,000 o nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio. Ein nod yw cwblhau ceisiadau i gofrestru cyn gynted â phosib. Fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau y caiff hyn ei wneud yn gywir er mwyn diogelu'r cyhoedd.

Os nad ydych wedi cofrestru ar gwrs eto, gweler ein rhestr o raglenni sydd wedi'u cymeradwyo.

Cynllun iaith Gymraeg

Rydym yn ymrwymedig i gynnig ein gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg. Mae ein cynllun iaith Gymraeg yn nodi sut rydym yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Pennodd y Ddeddf y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal mewn busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

Cynllun Iaith Gymraeg – Fersiwn Cymraeg

Mae cyhoeddiadau ar gyfer y cyhoedd ar gael yn Gymraeg. Caiff safonau a chanllawiau proffesiynol eu cyfieithu ar gais.

Gweler rhai o'n cyhoeddiadau yn Gymraeg isod.

Y Cod

Y Cod: Safonau ymarfer proffesiynol ac ymddygiad ar gyfer nyrsys a bydwragedd

Cod yr NMC: Staff proffesiynol, gwasanaethau o safon

Gofal da gan nyrsys a bydwragedd

Gofal da gan nyrsys a bydwragedd - fersiwn Hawdd ei ddeall

Ailddilysu