Os yw’r achos yn symud i’r cam ymchwilio, bydd y tîm sgrinio’n trosglwyddo’ch pryder i aelod o’n tîm ymchwilio.

Bydd rhywun yn cysylltu â chi i gyflwyno eu hunain fel eich ymchwilydd, rhoi eu manylion cyswllt i chi a gwirio os oes gennych chi unrhyw dystiolaeth arall mae angen i chi ei hanfnon aton ni.

Sut rydym ni’n ymchwilio i’ch pryder

Mae’n bwysig nodi mai’r cam ymchwilio o’n proses yw’r hiraf yn aml gan ein bod ni angen gasglu lawer o dystiolaeth. Fodd bynnag, bydd eich ymchwilydd yn cysylltu â chi o leiaf unwaith bob pedwar mis i adael i chi wybod os oes unrhyw ddiweddariadau.

Yn ystod ymchwiliad, bydd eich ymchwilydd yn:

  • Casglu tystiolaeth am eich pryder, fel cofnodion meddygol, darnau o ffilm TCC, ac efallai byddan nhw angen gofyn i gyflogwr y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio am hyn.
  • Cysylltu â chi i ganfod mwy gennych chi am beth ddigwyddodd. Rydym ni’n gwybod gall galw’r digwyddiadau hyn i gof peri gofid, felly os oes well gennych chi beidio â siarad amdano, rydym ni’n hapus i chi ein he-bostio ni.
  • Siarad â thystion eraill dros y ffôn a gofyn iddyn nhw a fydden nhw’n fodlon mynychu gwrandawiad pe bai angen hyn.

Beth sy’n digwydd unwaith rydym ni wedi gorffen ein hymchwiliad

Bydd yr ymchwilydd yn ysgrifennu adroddiad a dod â ffeil o dystiolaeth at ei gilydd. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad yn ein helpu ni i benderfynu a ydyn ni angen cynnal gwrandawiad sydd angen ei ystyried gan banel annibynnol.

Mae’r ymchwilydd yn anfon y dystiolaeth at y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio a’u cynrychiolydd proffesiynol os oes ganddyn nhw un. Yn y cam hwn, o dan y gyfraith, mae rhaid i ni roi 28 diwrnod i’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio i wneud sylwadau ar ein canfyddiadau a’r dystiolaeth rydym ni wedi’i chasglu.

Ar ôl 28 diwrnod, bydd dau archwilydd achosion yn archwilio’r adroddiad, y dystiolaeth ac unrhyw sylwadau rydym ni’n eu derbyn a phenderfynu beth fydd yn digwydd nesaf.

Mae’n bwysig cadw mewn cof mai dim ond nifer bychan o bryderon a godir gyda ni sy’n arwain ar wrandawiad sydd angen eu hystyried gan banel annibynnol. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gall nyrsys, bydwragedd neu gymdeithion nyrsio wneud camgymeriadau unigol weithiau, ond nid yw hyn yn golygu yr amherir ar eu haddasrwydd i ymarfer, yn enwedig os ydyn nhw a’u cyflogwr wedi’i ateb ac wedi cymryd camau i atal iddo ddigwydd eto.