Bydd aelodau paneli yn gwrando achosion cymhwyster i ymarfer. Cânt eu hapwyntio yn annibynnol ar yr NMC ac mae ganddynt rôl sylweddol iawn o ran gwarchod y cyhoedd, cynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiynau a chynnal safonau ac ymddygiad proffesiynol proffesiynol priodol.

Mae aelodau paneli’r pwyllgor cymhwyster i ymarfer yn nyrsys, bydwragedd, cymdeithion nyrsio a lleygwyr. Fel arfer, bydd tri aelod o banel yn penderfynu ar unrhyw achos penodol, a bydd y panel yn cynnwys o leiaf un lleygwr ac un gweithiwr proffesiynol cofrestredig.

Sut mae paneli yn gweithio

Bydd paneli ein pwyllgor yn llunio penderfyniadau yn ystod gwrandawiadau cymhwyster i ymarfer ynghylch cymhwyster i ymarfer nyrsys, bydwragedd neu gymdeithion nyrsio.

Mae’r gwrandawiadau yn broses tri cham:

  • A brofwyd y ffeithiau ai peidio?
  • A yw cymhwyster i ymarfer y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio yn ddiffygiol ar y pryd?
  • Pa sancsiynau (cyfyngiadau) sy’n ofynnol i warchod iechyd a lles y cyhoedd, cynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiynau a chynnal safonau proffesiynol priodol?

Bydd paneli yn defnyddio safon profi achosion sifil i benderfynu a yw ffeithiau honiad wedi’u profi. ‘Yn ôl yr hyn sy’n debygol’ yw’r safon sifil, sy’n golygu y bydd panel yn ystyried bod ffaith wedi’i brofi os byddant yn canfod fod hynny’n fwy tebygol o fod wedi digwydd na pheidio.

Pan fydd y pwyllgor cymhwyster i ymarfer yn ystyried sut ddylid gweithredu, bydd yn ystyried ffactorau eraill megis:

  • unrhyw gamau disgyblu blaenorol, a sut mae’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio wedi ymateb i hynny
  • lefel risg y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio i iechyd a lles y cyhoedd
  • lefel dirnadaeth y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio a faint mae’n edifarhau
  • argaeledd hyfforddiant a chymorth
  • materion staffio a allai fod wedi amharu ar berfformiad (e.e. bwlio, erlid neu lefelau staffio annigonol)
  • budd y cyhoedd, yn cynnwys cynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiynau nyrsio, bydwreigiaeth a chymdeithion nyrsio a’r NMC fel corff rheoleiddio, yn ogystal â datgan a chynnal safonau priodol o ran ymddygiad a pherfformiad.