Ein hymrwymiad i gwsmeriaid anabl

Rydym wedi ymrwymo i’r hawliau sydd gan bobl anabl i gyrchu a defnyddio’n gwasanaethau yn foddhaol a heb rwystrau diangen. Yn union fel mae gofal da wedi’i ganoli ar unigolyn – felly hefyd ein hymagwedd at ateb anghenion ein cwsmeriaid.

Gallwch ddisgwyl i ni ystyried eich anghenion, gan gynnwys unrhyw anabledd sydd gennych, pan fyddwch yn rhyngweithio â ni. Byddwn yn ymdrechu bob amser i fod yn garedig a chynhwysol, ac rydym wedi ymrwymo i fod mor hygyrch â phosibl i bawb.

Addasiadau rhesymol 

Yn Awst 2019 fe wnaethom gyhoeddi ein polisi ar wneud addasiadau rhesymol i bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Mae’n amlinellu ein hymagwedd at wneud newidiadau i’r ffordd rydym yn cynnig ein gwasanaethau i sicrhau bod gan bobl anabl gyfle teg a chyfartal o gyrchu ein gwasanaethau.

Mae’n cynnwys enghreifftiau o’r gwahanol ffyrdd y gallem addasu ein gwasanethau i ateb eich anghenion.

Darllenwch ein Polisi addasiadau rhesymol
Easy read

Gofynnwch Gwrandewch Gwnewch

Yng Ngorffennaf 2019 daethom yn rheoleiddiwr cyntaf gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddod yn llofnodwr Gofynnwch Gwrandewch Gwnewch, ymgyrch a arweiniwyd gan GIG Lloegr i wneud rhoi adborth, pryderon a chwynion am addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn haws i blant, pobl ifanc ac oedolion ag anabledd dysgu, awtistiaeth neu’r ddau, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae’r ymgyrch yn anelu at fynd i’r afael â’r dystiolaeth fod pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn cael profiadau gofal iechyd gwaeth, yn canfod llywio systemau iechyd a gofal yn anodd, ac yn cael trafferth i gael gwrandawiad i’w llais pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn defnyddio’n dylanwad i wella profiadau pobl o ofal, ac mae cofrestru i’r adduned hon yn un ffordd rydym yn dangos hyn.

Rydym hefyd am weithredu fel esiampl yn y sector iechyd a gofal a sicrhau bod y ffyrdd rydym yn gweithredu fel rheoleiddiwr yn gynhwysol, a’n bod yn annog a dysgu o adborth am ein prosesau a’n gweithredoedd ein hunain.

Mae gennym gynllun gweithredu i fonitro cynnydd mewn gwella’n gwasanaethau, a’u gwneud mor gynhwysol â phosibl, i unrhyw un sy’n defnyddio’n gwasanaethau sydd ag anabledd a/neu awtistiaeth.

Cysylltwch am gymorth

Os oes gennych anabledd neu anaf, ac rydych am siarad a ni am yr hyn sydd ei angen arnoch i gyrchu’n gwasanaethau, gallwch gysylltu a’n canolfan gyswllt ar 020 7637 7181.

Os hoffech dderbyn ein canllaw addasiadau rhesymol mewn fformat amgen, yna e-bostiwch y Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.