Ffurflen atgyfeirio cyhoeddus

Codi pryder gyda’r NMC am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio – ffurflen ar-lein i gleifion ac aelodau’r cyhoedd.

Progress: 3% complete
 

Cyn i chi godi’ch pryder gyda ni

Cyn i chi godi’ch pryder gyda ni, byddwn yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi i ddeall:

  • Os yw eich pryder yn ymwneud â gweithiwr proffesiynol ar ein cofrestr
  • Os mai ni yw'r sefydliad mwyaf priodol ar gyfer eich pryder
  • Os oes gennych yr holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau

I barhau, dewiswch ‘I’m not a robot’ yn y blwch isod.

*

Ydych chi wedi siarad â'n llinell gymorth atgyfeirio?

Rydym yn deall, os ydych yn ystyried codi pryder gyda ni, eich bod wedi bod ac efallai yn dal i fynd trwy gyfnod anodd.

Mae ffonio ein llinell gymorth atgyfeirio yn gam cyntaf pwysig os ydych chi’n ystyried codi pryder gyda ni am rywun ar ein cofrestr.

Gall ein tîm ymroddedig esbonio mwy ynghylch ai ni yw’r lle iawn i ddod, beth i’w ddisgwyl o’r broses addasrwydd i ymarfer, a pha gymorth y gallwn ei gynnig i chi.

Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, ffoniwch ni ar 020 3307 6802. Bydd rhai galwadau'n cael eu recordio i'n helpu i hyfforddi cydweithwyr a monitro ansawdd y cymorth a ddarparwn. Efallai y byddwn yn defnyddio’r recordiad i wirio manylion am atgyfeiriadau a chwynion addasrwydd i ymarfer. Mae rhagor o wybodaeth yn ein hysbysiad preifatrwydd.

* Required fields

Codi pryder am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio

Rydym yn ymchwilio i bryderon ynghylch gweithwyr proffesiynol cofrestredig i benderfynu a yw eu sgiliau, eu gwybodaeth, eu haddysg neu eu hymddygiad yn disgyn islaw'r safonau sydd eu hangen i ddarparu gofal diogel, effeithiol a charedig.

Rydym yn gweithredu pan ydym yn credu bod rhywun ar ein cofrestr yn peri risg i'r cyhoedd neu fod yr hyn y maent wedi'i wneud mor ddifrifol y byddai'n niweidio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau nyrsio neu fydwreigiaeth.

Enghreifftiau o bryderon difrifol:

  • camddefnyddio safle proffesiynol, er enghraifft perthynas rywiol amhriodol gyda chlaf neu rywun sy'n defnyddio gwasanaeth
  • camgymeriadau difrifol neu ailadroddus mewn gofal cleifion
  • troseddau difrifol
  • trais
  • anonestrwydd neu dwyll
  • achosion difrifol o dorri cyfrinachedd cleifion
  • gwahaniaethu yn erbyn cleifion, cydweithwyr neu eraill
  • pryderon difrifol am wybodaeth nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio o'r Saesneg.

Pam efallai na fyddwn yn ystyried pryder:

  • Rydym yn deall y gall pobl wneud camgymeriadau weithiau. Nid yw addasrwydd i ymarfer yn ymwneud â chosbi pobl.
  • Nid yw gwneud camgymeriad o reidrwydd yn golygu y dylai gweithiwr proffesiynol gael ei atal rhag gweithio. Pan edrychwn ar bryder, rydym yn ystyried a oedd yn ddigwyddiad untro, pa mor ddifrifol ydoedd, faint y maent wedi myfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd a’r hyn y maent wedi’i wneud ers hynny i ddysgu o’r camgymeriad ac i gryfhau eu hymarfer.

* Required fields

Llinell gymorth atgyfeirio

Rydym yn deall, os ydych yn ystyried codi pryder gyda ni, eich bod wedi bod trwy, ac efallai yn dal i fynd trwy gyfnod anodd.

Mae ein llinell gymorth atgyfeirio newydd yn bodoli fel cam cyntaf pwysig os ydych yn ystyried codi pryder gyda ni am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio. Gallwn helpu i egluro mwy am bwy ydym ni, ai ni yw’r lle iawn i ddod, sut y gallwn eich helpu ac yn bwysicaf oll, pa gymorth y gallwn ei gynnig i chi.

Trwy gysylltu â ni, gallwn eich helpu i ddeall sut i atgyfeirio nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio. Yna, os gwnewch atgyfeiriad, gallwn ddeall yn well beth yn union yw eich pryder ac ymchwilio iddo’n briodol.

Ffoniwch ni ar 020 3307 6802. Bydd rhai galwadau'n cael eu recordio i'n helpu i hyfforddi cydweithwyr a monitro ansawdd y cymorth a ddarparwn. Efallai y byddwn yn defnyddio’r recordiad i wirio manylion am atgyfeiriadau a chwynion ynghylch addasrwydd i ymarfer. Mae rhagor o wybodaeth yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Beth yw eich pryder?

* Required fields

Rheoleiddwyr eraill a all eich cynorthwyo

Dim ond pryderon am bobl ar ein cofrestr (nyrsys a bydwragedd yn y DU, a chymdeithion nyrsio yn Lloegr) y gallwn ymchwilio iddynt. Efallai y bydd rheoleiddwyr eraill yn gallu helpu os yw eich pryder yn ymwneud â gweithiwr iechyd neu ofal proffesiynol arall a reoleiddir.

Nid yw cynorthwywyr gofal iechyd (HCAs) yn cael eu rheoleiddio yn y DU. Os oes gennych gŵyn am gynorthwyydd gofal iechyd, dylech godi’ch pryder gyda'r sefydliad y mae'r cynorthwyydd gofal iechyd yn gweithio iddo.

Rheoleiddiwr Pwy maent yn eu rheoleiddio Rhif ffôn
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) Meddygon 0845 357 8001
Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) Deintyddion, therapyddion deintyddol, hylenyddion deintyddol, nyrsys deintyddol, technegwyr deintyddol, technegwyr deintyddol clinigol a therapyddion orthodontig 020 7887 3800
Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) Therapyddion celf, gwyddonwyr biofeddygol, ciropodyddion, podiatryddion, gwyddonwyr clinigol, dietegwyr, dosbarthwyr cymhorthion clyw, therapyddion galwedigaethol, ymarferwyr adrannau llawdriniaethau, orthoptwyr, parafeddygon, ffisiotherapyddion, prosthetyddion ac orthotyddion, radiograffwyr a therapyddion lleferydd ac iaith 020 7582 0866
Y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC) Optegwyr 020 7580 3898
Y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol (GCC) Ceiropractyddion 020 7713 5155
Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) Osteopathiaid 020 7357 6655
Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPC) Fferyllwyr, technegwyr fferyllol (ar y gofrestr wirfoddol) a safleoedd fferyllol ym Mhrydain Fawr 020 3365 3400
Gofal Cymdeithasol Cymru Gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol cymwys, a myfyrwyr gwaith cymdeithasol ar gyrsiau gradd cymeradwy yng Nghymru 0845 070 0399
Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon (NISCC) Gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol cymwys, a myfyrwyr gwaith cymdeithasol ar gyrsiau gradd cymeradwy yng Ngogledd Iwerddon

02890 417600

02890 239340 (Ffôn testun)

Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI) Fferyllwyr a safleoedd fferyllol yng Ngogledd Iwerddon

02890 326927

Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban (SSSC) Gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol cymwys, a myfyrwyr gwaith cymdeithasol ar gyrsiau gradd cymeradwy yn yr Alban

0845 603 0891

Gwaith Cymdeithasol Lloegr Gweithwyr cymdeithasol yn Lloegr

0808 196 2274

Pryder am sefydliad iechyd neu ofal

A ydych chi eisoes wedi codi’ch pryder gyda’r sefydliad dan sylw? Fel arfer dyma'r ffordd gyflymaf a hawsaf i ddatrys problem.

Ni allwn ymchwilio i bryderon am sefydliadau, dim ond nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio unigol. Os yw eich pryder yn ymwneud â rhedeg sefydliad a’ch bod yn poeni y gallai’r gofal a ddarperir gan y sefydliad fod yn risg i eraill, dylech ystyried cysylltu ag un o’r rheoleiddwyr canlynol.

Sefydliad Pwy maent yn eu rheoleiddio Rhif ffôn
Y Comisiwn Ansawdd Gofal Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr 03000 616161
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Gwasanaethau GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol ledled Cymru 0300 062 8163
Arolygiaeth Gofal Cymru Gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru 0300 7900 126
Gwella Gofal Iechyd yr Alban Ysbytai a chlinigau annibynnol yn yr Alban 0141 225 6999
Arolygiaeth Gofal (yr Alban) Gwasanaethau gofal yn yr Alban 0345 600 9527
Yr Awdurdod Rheoleiddio a Gwella Ansawdd Iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon 028 9536 1111

 

Adrodd am dwyll yn erbyn y GIG NHS

Mae mwyafrif helaeth y rhai sydd yn defnyddio'r GIG, yn gweithio ynddo, neu'n rhyngweithio ag ef yn onest. Ond mae lleiafrif bychan yn cyflawni twyll yn erbyn y GIG. Gallai hynny gynnwys nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio.

Mae sefydliadau annibynnol yn gyfrifol am ymchwilio i dwyll a throseddau economaidd eraill. Nhw yw’r bobl iawn i siarad â nhw os dewch chi’n ymwybodol o dwyll yn erbyn y GIG.

Os ydynt yn canfod bod rhywun ar ein cofrestr yn gysylltiedig, byddant yn rhannu gwybodaeth â ni fel y rheoleiddiwr proffesiynol.

Gwlad Cyswllt
Lloegr Awdurdod Atal Twyll y GIG
Cymru Awdurdod Atal Twyll y GIG
Yr Alban Gwasanaethau Cenedlaethol yr Alban
Gogledd Iwerddon Gwasanaethau Gwrth Dwyll ac Uniondeb

Pryder am fater defnyddwyr

Os ydych chi eisiau ad-daliad, iawndal neu os oes gennych broblem defnyddiwr arall mae’n well siarad â’r lle y cawsoch eich trin yn uniongyrchol gan nad yw hynny’n rhywbeth y gallwn ni helpu ag ef.

Gall sefydliadau megis Cyngor ar Bopeth helpu os oes angen mwy o gymorth arnoch gyda phroblem defnyddiwr.

A ydych wedi codi hyn gyda chyflogwr y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio?

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â man gwaith neu gyflogwr y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio cyn i chi godi’ch pryder gyda ni.

Fel arfer cyflogwr sydd yn y sefyllfa orau i ddatrys materion yn gyflym ac yn deg. Gallant roi esboniad manwl i chi o'r hyn a ddigwyddodd ac ymddiheuriad os yw'n briodol. Ni allwn ddarparu'r naill na'r llall o'r pethau hyn i chi.

Efallai y byddant wedyn yn penderfynu atgyfeirio rhywun atom ar ôl iddynt ymchwilio i'ch pryder eu hunain. Yna gellir defnyddio'r holl wybodaeth a gesglir ganddynt yn ystod ymchwiliad mewnol yn ein hymchwiliadau ein hunain a chyflymu'r broses yn gyffredinol.

Os nad ydych yn cytuno ag ymateb y cyflogwr gallwch gwyno i’r Ombwdsmon.

* Required fields

Codi'n lleol

Mae rhai elusennau a sefydliadau eraill yn bodoli i'ch helpu i godi pryder gyda sefydliad iechyd neu ofal. Rydym wedi rhestru rhai ohonynt isod.

Gwlad  
DU AvMA (Camau yn erbyn Damweiniau Meddygol)
Cymdeithas y Cleifion
Lloegr PALS (gwasanaeth cyngor a chyswllt i gleifion)
Healthwatch Lloegr
Voiceability (Gwasanaeth eiriolaeth)
Yr Alban PASS (gwasanaeth cyngor a chymorth i gleifion)
Cyngor ar Bopeth yr Alban
Voiceability (Gwasanaeth eiriolaeth)
Gogledd Iwerddon Cyngor Cleientiaid Cleifion
Cymru Llais

Bydd arnoch angen popeth yn barod cyn i chi ddechrau'r ffurflen hon

Mae'n rhaid i chi lenwi'r ffurflen hon mewn un sesiwn. Ni allwch ei chadw a dod yn ôl yn ddiweddarach, na chlicio adnewyddu neu ddefnyddio botwm yn ôl eich porwr.

Os oes angen help arnoch i gwblhau'r ffurflen ffoniwch ein Llinell Gymorth Atgyfeirio ar 020 3307 6802.

Mae'r ffurflen fel arfer yn cymryd oddeutu 30 munud i'w chwblhau.

Beth fydd ei angen arnoch cyn llenwi’r ffurflen hon

  • cyfeiriad e-bost
  • enw'r person (neu'r bobl) rydych yn mynegi pryder yn ei gylch
  • os yn bosibl, eu rhif adnabod personol (cyfeirir ato weithiau fel eu rhif cofrestru).
  • Mae hwn yn rif adnabod unigryw rydym yn ei roi i bob person ar ein cofrestr, er enghraifft 11A400AA
  • disgrifiad o'r hyn a ddigwyddodd (gan gynnwys ble, dyddiadau ac amseroedd)
  • manylion yr hyn rydych eisoes wedi'i godi gyda'u gweithle
  • manylion unrhyw bobl eraill a welodd beth ddigwyddodd.

Gwybodaeth y gallech fod am ei lanlwytho

Byddwch yn gallu uwchlwytho gwybodaeth pan fyddwch yn llenwi'r ffurflen hon. Gallai hyn gynnwys:

  • copïau o gofnodion meddygol a allai fod yn berthnasol
  • negeseuon e-bost neu lythyrau am eich pryder rydych wedi'u hanfon i weithle'r gweithiwr proffesiynol ac unrhyw atebion a gawsoch.

* Required fields

Llinell gymorth atgyfeirio

Rydym yn deall, os ydych yn ystyried codi pryder gyda ni, eich bod wedi bod trwy, ac efallai yn dal i fynd trwy gyfnod anodd.

Mae ein llinell gymorth atgyfeirio newydd yn bodoli fel cam cyntaf pwysig os ydych yn ystyried codi pryder gyda ni am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio. Gallwn helpu i egluro rhagor am bwy ydym ni, ai ni yw'r lle iawn i ddod, sut y gallwn eich helpu ac yn bwysicaf oll, pa gymorth y gallwn ei gynnig i chi.

Trwy gysylltu â ni, gallwn eich helpu i ddeall sut i atgyfeirio nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio. Yna, os gwnewch atgyfeiriad, gallwn ddeall yn well beth yn union yw eich pryder ac ymchwilio iddo’n briodol.

Call us on 020 3307 6802. Bydd rhai galwadau'n cael eu recordio i'n helpu i hyfforddi cydweithwyr a monitro ansawdd y cymorth a ddarparwn. Efallai y byddwn yn defnyddio’r recordiad i wirio manylion am atgyfeiriadau a chwynion ynghylch addasrwydd i ymarfer. Mae rhagor o wybodaeth yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Am bwy y mae eich pryder?

Mae nyrs iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol yn cynnwys ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, nyrsys iechyd galwedigaethol a nyrsys iechyd teulu.

* Required fields

Dim ond nyrsys, bydwragedd neu gymdeithion nyrsio y gallwn ymchwilio iddynt

Dim ond pryderon am bobl ar ein cofrestr (nyrsys a bydwragedd yn y DU, a chymdeithion nyrsio yn Lloegr) y gallwn ymchwilio iddynt. Efallai y bydd rheoleiddwyr eraill yn gallu helpu os yw eich pryder yn ymwneud â gweithiwr iechyd neu ofal proffesiynol arall a reoleiddir.

Nid yw cynorthwywyr gofal iechyd (HCAs) yn cael eu rheoleiddio yn y DU. Os oes gennych gŵyn am gynorthwyydd gofal iechyd, dylech godi’ch pryder gyda'r sefydliad y mae'r cynorthwyydd gofal iechyd yn gweithio iddo.

Rheoleiddiwr Pwy maent yn eu rheoleiddio Rhif ffôn
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) Meddygon 0845 357 8001
Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) Deintyddion, therapyddion deintyddol, hylenyddion deintyddol, nyrsys deintyddol, technegwyr deintyddol, technegwyr deintyddol clinigol a therapyddion orthodontig 020 7887 3800
Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) Therapyddion celf, gwyddonwyr biofeddygol, ciropodyddion, podiatryddion, gwyddonwyr clinigol, dietegwyr, dosbarthwyr cymhorthion clyw, therapyddion galwedigaethol, ymarferwyr adrannau llawdriniaethau, orthoptwyr, parafeddygon, ffisiotherapyddion, prosthetyddion ac orthotyddion, radiograffwyr a therapyddion lleferydd ac iaith 020 7582 0866
Y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC) Optegwyr 020 7580 3898
Y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol (GCC) Ceiropractyddion 020 7713 5155
Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) Osteopathiaid 020 7357 6655
Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPC) Fferyllwyr, technegwyr fferyllol (ar y gofrestr wirfoddol) a safleoedd fferyllol ym Mhrydain Fawr 020 3365 3400
Gofal Cymdeithasol Cymru Gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol cymwys, a myfyrwyr gwaith cymdeithasol ar gyrsiau gradd cymeradwy yng Nghymru 0845 070 0399
Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon (NISCC) Gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol cymwys, a myfyrwyr gwaith cymdeithasol ar gyrsiau gradd cymeradwy yng Ngogledd Iwerddon

02890 417600

02890 239340 (Text phone)

Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI) Fferyllwyr a safleoedd fferyllol yng Ngogledd Iwerddon

02890 326927

Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban (SSSC) Gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol cymwys, a myfyrwyr gwaith cymdeithasol ar gyrsiau gradd cymeradwy yn yr Alban

0845 603 0891

Gwaith Cymdeithasol Lloegr Gweithwyr cymdeithasol yn Lloegr

0808 196 2274

Amdanoch chi

Fel arfer bydd angen i ni gysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth am y pryder a godwyd gennych.

Rydym yn defnyddio’ch manylion cyswllt i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd, ond nid ydym byth yn rhannu’ch manylion cyswllt ag unrhyw un arall.

Wrth ddefnyddio’ch gwybodaeth, byddwn yn dilyn ein hysbysiad preifatrwydd a’n canllawiau ar drin gwybodaeth ynghylch Addasrwydd i Ymarfer.

Gallwn ystyried atgyfeiriadau dienw (lle nad ydych yn rhoi’ch enw i ni), ond bydd hyn yn ei gwneud yn anoddach i ni gael y wybodaeth sydd ei hangen arnom. Os na allwn gael gwybodaeth i gefnogi’r pryder, byddwn yn cau’r atgyfeiriad heb gymryd unrhyw gamau pellach.

Os byddwch yn gwneud atgyfeiriad dienw ni fyddwch yn derbyn unrhyw ddiweddariadau gennym am ein cynnydd na’r canlyniad.

Siaradwch â’n Llinell Gymorth Atgyfeirio ar 020 3307 6802 os hoffech ragor o wybodaeth.

Amdanoch chi

Sylwer: Er mwyn symud eich pryder yn ei flaen bydd angen cyfeiriad e-bost arnom.

Hygyrchedd a chymorth

Ar ôl i chi rannu’ch pryder gyda ni, efallai y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth yn ysgrifenedig, i drafod eich profiad gydag aelod o'n tîm neu i dderbyn gwybodaeth ysgrifenedig gennym ni.

Rhowch wybod i ni os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd a bod angen unrhyw addasiadau arnoch. Gallai hyn gynnwys derbyn ein gwybodaeth mewn fformat arall (er enghraifft, print bras neu sain).

Rydym yn gwybod y gall ein prosesau fod yn anodd i rai pobl, felly rhowch wybod i ni os ydych yn credu y byddech yn elwa o unrhyw gymorth ychwanegol. Er enghraifft, efallai y bydd rhai pobl am i ni gysylltu â nhw dros y ffôn yn hytrach nag e-bost, neu gael rhywun i’w helpu drwy’r broses, megis eiriolwr cymorth.

*

* Required fields

A ydych wedi codi’ch pryder i gyflogwr y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio?

Os ydych wedi cysylltu â chyflogwr neu weithle’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio, nodwch eu manylion isod.

A oes gennych unrhyw ddogfennau yr hoffech eu lanlwytho?

Er enghraifft, byddwn fel arfer yn gofyn am gael gweld eich llythyr cwyn ac unrhyw atebion gan y gall y rhain ein helpu i ddeall y problemau. Os ydych yn eu lanlwytho nawr, gall helpu i gyflymu ein hymholiadau.

Sylwch: dim ond y mathau canlynol o ffeiliau y gallwch eu lanlwytho - pdf, doc, docx, jpg a jpeg.

Mae terfyn o 10MB i bob ffeil, rhaid i chi ddewis a lanlwytho’ch holl ffeiliau ar yr un pryd. Bydd angen i chi lanlwytho'ch holl ffeiliau ar yr un pryd, os ydych yn lanlwytho'r ffeil anghywir gallwch ei dileu a'i lanlwytho eto.

No files selected Remove

* Required fields

Ni chysylltais â'u gweithle

* Required fields

Ydych chi'n helpu rhywun arall i lenwi'r ffurflen hon?

Os ydych yn mynegi pryder am rywun arall, megis ffrind neu aelod o’r teulu nad ydych yn rhiant neu’n ofalwr llawn amser iddynt, rhowch wybod i ni. Byddwn yn cysylltu â nhw ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn hapus i chi weithredu ar eu rhan.

Dewiswch ‘na’ os ydych yn gweithredu drosoch eich hun, neu os ydych yn gweithredu ar ran rhywun rydych yn gofalu amdano, megis eich plentyn.

* Required fields

Ynglŷn â'r person rydych yn gweithredu ar ei ran

Sylwch: Mae angen i ni gysylltu â’r person a gwneud yn siŵr ei fod yn hapus i chi weithredu ar ei ran. Rhowch o leiaf un ffordd i ni gysylltu â nhw.

Hygyrchedd

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein prosesau’n hygyrch i bawb.

Os oes gan y person rydych yn gweithredu ar ei ran anabledd neu anaf, dywedwch wrthym os oes angen unrhyw addasiadau arnynt.

Gallai hyn gynnwys derbyn ein gwybodaeth mewn fformat arall (er enghraifft, print bras neu sain).

*

* Required fields

Am bwy mae eich pryder?

Dyma lle rydym angen i chi ddarparu gwybodaeth ynghylch am bwy mae eich pryder.

Os yw eich pryder yn ymwneud â mwy nag un nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio, gallwch ychwanegu eu manylion isod. Bydd angen i chi ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl am bob person fel y gallwn eu hadnabod ar ein cofrestr.

Os yw eich pryder yn ymwneud â gweithwyr proffesiynol lluosog, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â'u gweithle neu gyflogwr yn gyntaf. Fel arfer cyflogwr sydd yn y sefyllfa orau i ddatrys materion yn gyflym ac yn deg. Efallai y byddant yn penderfynu atgyfeirio rhywun atom ar ôl iddynt ymchwilio i’ch pryder eu hunain. Yna gellir defnyddio'r holl wybodaeth y maent yn ei chasglu yn ystod ymchwiliad mewnol, gan gynnwys yr hyn a ddigwyddodd a phwy oedd yn gysylltiedig, yn ein hymchwiliadau ein hunain a chyflymu'r broses yn gyffredinol.

Nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio 1

Close
*

Mae gan bob nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio god unigryw, er enghraifft, ‘99A9999A’.

Nid oes rhaid i chi ddarparu Pin, ond os gwnewch hynny bydd yn ein helpu i ymchwilio’n gyflymach.

Beth ddigwyddodd?

Rhowch leoliad y digwyddiad sydd wedi arwain at eich pryder. (Os digwyddodd y digwyddiad ar-lein, gallwch nodi enw’r platfform y digwyddodd arno – er enghraifft Twitter, neu dros e-bost.)

*

Beth ddigwyddodd?

Darparwch wybodaeth gyflawn a chywir fel y gallwn ymchwilio i'ch pryder.

Mewn rhai achosion efallai y bu un digwyddiad mawr, ond mewn eraill efallai y bu cyfres o ddigwyddiadau llai dros amser. Mae sicrhau bod y wybodaeth a roddwch yn fanwl ac yn berthnasol yn golygu y gallwn weithredu ac ymateb yn gyflym.

Disgrifiwch:

  • Y digwyddiad neu ddigwyddiadau yn fanwl
  • Ble digwyddodd y digwyddiad neu ddigwyddiadau
  • Dyddiad y digwyddiad neu'r digwyddiadau
  • A oedd unrhyw beth anarferol yn digwydd ar y pryd.
0 / 3000
*

A oes gennych unrhyw ffeiliau i'w lanlwytho?

Atodwch unrhyw un o’r dogfennau canlynol i’n helpu i ddeall beth ddigwyddodd:

  • Unrhyw luniau o'r digwyddiad
  • Cofnodion meddygol perthnasol
  • Copïau o bryderon a godwyd gennych ac unrhyw atebion a gawsoch

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dileu unrhyw amddiffyniad cyfrinair pan ydych yn lanlwytho'r ffeiliau.

Sylwch: dim ond y mathau canlynol o ffeiliau y gallwch eu lanlwytho - pdf, doc, docx, jpg a jpeg.

Mae terfyn o 10MB i bob ffeil, rhaid i chi ddewis a lanlwytho’ch holl ffeiliau ar yr un pryd. Bydd angen i chi lanlwytho'ch holl ffeiliau ar yr un pryd, os ydych yn lanlwytho'r ffeil anghywir gallwch ei dileu a'i lanlwytho eto.

No files selected Remove

* Required fields

Ar wahân i weithle'r gweithiwr proffesiynol, a ydych wedi cysylltu ag unrhyw sefydliadau eraill ynghylch eich pryder?

A oes gennych unrhyw ddogfennau yr hoffech eu lanlwytho?

Er enghraifft, byddwn fel arfer yn gofyn am gael gweld beth rydych wedi’i ddweud wrth sefydliadau eraill ac unrhyw atebion y gallech fod wedi’u cael. Gall y rhain ein helpu i ddeall y problemau. Os ydych yn eu lanlwytho nawr, gall helpu i gyflymu ein hymholiadau.

Sylwch: dim ond y mathau canlynol o ffeiliau y gallwch eu lanlwytho - pdf, doc, docx, jpg a jpeg.

Mae terfyn o 10MB i bob ffeil. Bydd angen i chi lanlwytho'ch holl ffeiliau ar yr un pryd, os ydych yn lanlwytho'r ffeil anghywir gallwch ei dileu a'i lanlwytho eto.

No files selected Remove

* Required fields

A welodd unrhyw un arall beth ddigwyddodd?

* Required fields

Pwy oedden nhw?

Bydd dweud wrthym am unrhyw un arall a oedd yno yn ein helpu i ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd. Efallai y byddwn yn cysylltu â’r tystion heb ddweud wrthych yn gyntaf.

Tyst 1

Close
*

A oes rhywbeth arall?

*

A allwn ni ofyn am eich cofnodion meddygol?

Os yw eich pryderon yn ymwneud â gofal a gawsoch, efallai y bydd angen i ni ofyn am eich cofnodion meddygol fel rhan o’n hymchwiliad. Gall hyn ein helpu i ystyried yn llawn y pryderon am y gofal a gawsoch.

Nid ydym byth yn rhannu’r cofnodion hyn y tu allan i’n hymchwiliad, ond bydd angen i ni rannu’ch cofnodion gyda’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio ac unrhyw gynrychiolydd sy’n gweithredu ar eu rhan. Pan ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth, byddwn yn dilyn ein hysbysiad preifatrwydd a’n canllawiau ar drin gwybodaeth Addasrwydd i Ymarfer.

Os na fyddwch yn rhoi’ch caniatâd i ni weld eich cofnodion meddygol a’u bod yn berthnasol i’ch pryder, gall fod yn anodd i ni ddeall beth sydd wedi neu sydd heb ddigwydd a gallai olygu na fyddwn yn gallu ymchwilio i’ch pryder.

* Required fields

A allwn ni rannu’ch gwybodaeth?

Drwy gytuno, rydych yn rhoi’ch caniatâd i ni rannu’r wybodaeth rydych wedi’i chynnwys yn y ffurflen hon. Mae hynny’n cynnwys pwy ydych chi, eich pryder, eich cofnodion meddygol os yw’n briodol, ac unrhyw wybodaeth arall a roddwch i ni yn ystod ein hymchwiliadau.

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:

  • y gweithiwr proffesiynol neu'r gweithwyr proffesiynol rydych wedi codi pryder yn ei gylch
  • eu cyflogwr, ac
  • unrhyw barti perthnasol arall a nodir gennym.

Byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd a’n canllawiau trin gwybodaeth addasrwydd i ymarfer.

* Required fields

Sylwch

Gallwch godi pryder heb roi caniatâd i ni rannu gwybodaeth.

Ond os nad ydych yn cytuno i ni rannu’ch gwybodaeth yna mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ymchwilio ymhellach. Mae hyn oherwydd y byddwn bob amser yn rhoi cyfle i’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio weld manylion y pryderon a godwyd amdanynt ac unrhyw dystiolaeth. Ni allwn wneud hyn os nad ydych yn cytuno i rannu’ch enw a’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni. Os na allwn ddod o hyd i dystiolaeth i gefnogi’r pryderon, byddwn yn cau’r atgyfeiriad heb gymryd camau pellach.

Mewn rhai achosion, os ydym yn credu y gallai’r cyhoedd fod mewn perygl oherwydd y wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni, bydd angen i ni rannu’r wybodaeth yn eich atgyfeiriad gyda’r partïon perthnasol. Byddwn yn esbonio hyn i chi os ydym yn credu efallai y bydd angen i ni wneud hyn.

Am resymau diogelwch, mae'r ffeiliau canlynol wedi'u tynnu o'r cyflwyniad hwn:

    Cyflwyno'ch pryder

    Darllen ein polisi preifatrwydd

    * Required fields

    Byddwch nawr yn cael eich ailgyfeirio

    Angen cymorth?

    Os na allwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein neu os oes gennych gwestiwn a bod angen ein cymorth arnoch, ffoniwch ein Llinell Gymorth Atgyfeirio ar 020 3307 6802.


    Adborth

    Dywedwch wrthym beth yw eich barn i'n helpu i wella ein gwasanaeth atgyfeirio.


    Close modal Angen help i lenwi'r ffurflen hon?

    Angen help i lenwi'r ffurflen hon?

    Cysylltwch ag addasrwydd i ymarfer ar 020 7637 7181 (8:00 - 17:45 o ddydd Llun i ddydd Gwener, heb gynnwys gwyliau banc)

    Neu e-bostiwch newreferrals@nmc-uk.org

    Close modal
    Close modal
    Ydych chi'n siŵr eich bod am adael y cwyn hwn?

    Trwy lywio i ffwrdd byddwch yn colli'r holl ddata a gofnodwyd hyd yn hyn. Os hoffech barhau i fynegi’ch pryder, parhewch.

    Gadael
    Close modal

    Rhybudd terfyn amser

    Rydych wedi cymryd gormod o amser i lenwi'r ffurflen - cewch eich ailgyfeirio’n fuan.